Menter adfywio glannau a chanol tref Caernarfon

 

“Gwella’r dref fel lle i weithio, lle i fyw a lle i ymweld” 

“Mae’r Cyngor ac ein partneriaid wedi adnabod Glannau Caernarfon fel ardal holl bwysig i'w ail ddatblygu. Mae ‘na sawl prosiect cyffroes yn digwydd ac rydym yn credu bydd gan yr ardal hanesyddol yma o Gaernarfon ddyfodol disglair.”

- Y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Datblygiad Economaidd Cyngor Gwynedd 

 


 

Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn cynorthwyo partneriaid lleol i gyflawni Galeri 2, gorsaf newydd Rheilffordd Eryri a Chei Llechi.

Prosiect Cyrchfan Denu Twristiaeth Caernarfon gwerth £12m - Mae'r prosiect hwn yn cynnwys gorsaf newydd ar St Helen’s Road ac ynddo gaffi, lle i gynnal digwyddiadau a thoiledau Changing Places ar gyfer Rheilffordd Eryri.

Galeri 2 - Gobaith y Galeri oedd gwerthu 25,000 tocyn yn eu blwyddyn agoriadol. Mae llwyddiant y tocynnau wedi bod y tu hwnt i'r disgwyl, a thros 65,000 o docynnau wedi eu gwerthu. 

Cei Llechi – bydd y safle sydd wedi’i leoli ar lannau’r Castell, yn agor yn 2020 a bydd yn cynnwys 19 o unedau artisan i wneuthurwyr crefftau lleol eu rhentu, 3 llety gwyliau ac ystafell gyfarfod. Bydd promenâd newydd yma a bydd y prosiect mynediad a chysylltiadau yn cysylltu'r ddau brosiect Cyrchfan Denu Twristiaeth â chanol y dref.

Mae'r cynllun hwn yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop. 

Mae System Meincnodi People and Places Insight Cyf wedi ei datblygu i fynd i'r afael â'r problemau sy'n codi ynghylch dealltwriaeth, mesur, gwerthuso a gwella canol trefi. Mae'r dull yn cynnig ffordd syml o gasglu data ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) a ddewisir gan y sawl sy'n rhan o reoli canol y dref. Mae’n cymharu perfformiad y dref dros sawl blwyddyn i'n galluogi i fesur gwelliant. Gyda'r arfau hyn i fesur perfformiad, mae'r broses o ddod i benderfyniadau strategol yn gwella. O ystyried perfformiad, gall blaen-strategaethau a chynllunio gweithredu fod yn fwy effeithiol a bod â mwy o ffocws. 

Adroddiad Meincnodi Caernarfon - 2019

Graffiau Gwybodaeth - Meincnodi 2019

Galeri 2 – agorwyd y Galeri i’r cyhoedd ym mis Medi. Mae’r sinema newydd wedi cyrraedd eu targed. Ers fis Medi, mae'r sinema wedi gwerthu bron i 30,000 o docynnau. 

Rheilffordd Eryri – wedi agor i’r cyhoedd dros gyfnod y Nadolig ar gyfer trenau Sion Corn – bydd y gegin a’r siop yn cael eu gosod fis nesaf ac agorir y drysau ddiwedd fis Mawrth. Agorir y lle 5 Ebrill, ac mae'r agoriad swyddogol i ddigwydd fis Mehefin.

Prosiect Cei Llechi – Grosvenor Construction wedi cychwyn gwaith ar y safle yn mis Hydref. Gobeithiwn y bydd y gwaith adeiladu wedi ei gwblhau fis Rhagfyr a bydd y tenantiaid yn yr unedau erbyn Pasg 2020. Mae pobl leol yn cael eu cyflogi ar y prosiectau ac mae Grosvenor yn cy-weithio â phlant ysgolion Gwynedd ar brosiectau i hyrwyddo’r manteision o weithio o fewn y diwydiant adeiladu. 

Prosiect STAMP - Bydd sgrin fawr sy’n arddangos gwaith artistiaid lleol yn cael ei ddangos ar ddiwrnod agoriad swyddogol yr orsaf newydd. Y gobaith yw y bydd y gofod yn hwb ar gyfer digwyddiadau celf a chymunedol lleol.

Galeri 2 - Mae’r sinema dwy sgrin newydd yn barod ers 21 Medi. I ddathlu’r agoriad, cafodd Rhys Ifans a’r Gweinidog, Dafydd Elis Thomas, eu gwahodd i ddad-orchuddio cerflun Llŷr Erddyn Davies y tu allan i’r adeilad.

Yn yr adeilad newydd hon, mae:

  • dwy sgrin bwrpasol (119 a 65 sedd)
  • mynedfa
  • swyddfa docynnau
  • gofod arddangos celf a chrefft
  • ystafell gelf
  • siop crefftau ac 
  • ystafell gyfarfod.

Richard Murphy Architects sydd wedi dylunio’r adeilad a chwmni adeiladu o Lysfaen, RL Davies & Sons sydd wedi ei chodi. Hwn yw’r prosiect denu twristiaeth gyntaf i’w gwblhau.

  

Rheilffordd Eryri - Mae’r adeilad newydd bron yn barod. Mae MPH Construction yn dal i weithio ar y manion yn ystod yr wythnos, ond mae’r adeilad yn agored i’r cyhoedd ar y penwythnos. Mae arddangosfa cystadleuaeth posteri’r Rheilffordd i’w gweld hyd at 28 Hydref.

Bydd yr adeilad ar agor i’r cyhoedd ym mis Rhagfyr ar gyfer Trenau Siôn Corn, gydag agoriad swyddogol fis Mai 2019. Yn yr orsaf newydd bydd siop a swyddfa tocynnau newydd, caffi a gofod digwyddiadau.

 

Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon – Cwmni sy’n brofiadol mewn adfer meysydd treftadaeth, Grosvenor, fydd yn adeiladu’r datblygiad newydd hwn.  Bydd y gwaith yn cychwyn y mis yma. Y gobaith yw y bydd yn barod mewn 18 mis.

 

Prosiect STAMP - Yn yr adeilad, mae Bedwyr Williams wedi codi sgrin fawr sy’n arddangos gwaith artistiaid lleol. Y gobaith yw y bydd y gofod digwyddiadau yn hwb ar gyfer digwyddiadau celf a chymunedol lleol.

Galeri 2 – Mae strwythur yr adeilad yn barod ac wedi cael ei gosod fel na all dŵr fynd trwyddi erbyn hyn. Y gobaith yw y bydd y sinema newydd yn barod ddiwedd haf 2018.


Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon
 - Mae’r gwaith tendro yn digwydd ar hyn o bryd a bydd y gwaith adeiladu’n cychwyn ar y safle fis Mehefin.

 

Prosiect STAMP – Mae prosiect STAMP wedi comisiynu Bedwyr Williams i gael dylanwad artistig ar y gwaith adeiladu. Mae Bedwyr wedi bod yn gweithio efo timau dylunio’r Ymddiriedolaeth a’r Rheilffordd. 


Rheilffordd Eryri
 – Mae strwythur yr adeilad yn barod. Mae Bedwyr Williams yn cydweithio gyda thîm proffesiynol y Rheilffordd hefyd. Mae disgwyl i’r Orsaf agor ei drysau fis Medi 2018.

 

Cynllun Gwella Mynediad a Chysylltedd  - Mae Cam 1 y prosiect wedi ei gwblhau. Bydd Cam 2 yn digwydd ym mlwyddyn olaf y prosiect. 

Daeth rhaglen ‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’ i ben fis Ebrill 2017. Yn Hydref 2016, cafodd raglen VVP werth £2.6m, a llwyddodd Cyngor Gwynedd i ddenu £12m drwy raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth (TAD) 2017-20.

Mae hyn yn golygu fod y Cyngor wedi denu £15m at ddau gynllun. Mae’r prosiect, sy’n cael ei arwain gan Croeso Cymru, yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Mae’r pecyn yn galluogi’r Galeri, Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon a Rheilffordd Eryri adfywio rhannau o Gaernarfon sydd wedi bod yn adfeilio ers degawdau,.

Cychwynnodd y prosiect TAD yn Ebrill 2017 wrth i’r Rheolwr Prosiect, Phil McGrath, uno â thîm Adfywio. Mae manylion am y cynlluniau unigol isod:

 

Galeri 2 – Sinema gyda sgrin llawn amser newydd, swyddfeydd ychwanegol a gofod gwaith creadigol.


Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon – Datblygu Cei Llechi, Safle’r Ynys yn 19 o unedau busnes crefftwr, 2 llety gwyliau.


Rheilffordd Eryri – Datblygu gorsaf newydd ar Lon Santes Helen. 


Cynllun Gwella Mynediad a Chysylltedd 
– Gwella’r cysylltiadau rhwng y safleoedd strategol.

Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid 2014-17

Fis Tachwedd 2014, llwyddodd Cyngor Gwynedd i sicrhau 'Cronfa Taclo Tlodi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid' Llywodraeth Cymru. Roedd sicrhau’r arian yn hanfodol i gychwyn sawl prosiect o gwmpas y Dref.

Dyma brosiectau'r rhaglen sydd wedi cael effaith hynod ar Gaernarfon:

  • Menter Siopau Gwag
  • Mentro ‘Mlaen
  • STAMP: Caernarfon
  • Ardal Gwella Busnes
  • Beics Menai 
  • Safle’r Ynys, Cei Llechi
  • Terfynfa Caernarfon Rheilffordd Ucheldir Cymru
  • Castell Caernarfon
  • Galeri
  • Prosiectau Tai


Adroddiad Cyrhaeddiad

 

Am fwy o wybodaeth: