Diwyllesiant
Mae’r prosiect Diwyllesiant yn cefnogi budd a lles cymunedau, amgylchedd a busnesau Gwynedd drwy hybu a datblygu cyfleodd yn y meysydd blaenoriaeth.
Mae’r prosiect yn cael ei gyflwyno yn unol â blaenoriaethau Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 a Chynllun Economi Ymweld Gynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2025. Mae’r blaenoriaethau sydd wedi ei adnabod yn ymateb i ymgynghoriadau eang gyda thrigolion a busnesau Gwynedd.
Beth yw blaenoriaethau'r prosiect?
- Hyrwyddo a dathlu diwylliant a threftadaeth Unigryw Gwynedd drwy weithredu pecyn o weithgareddau
- Rhaglenni datblygu a gweithgareddau celfyddydol, llenyddol ac archifo ar draws holl safleoedd y Cyngor, gan gynnwys Storiel a Neuadd Dwyfor.
- Rhaglen Marchnata a chyfathrebu i hyrwyddo celfyddydau a threftadaeth
- Peilota rhaglen gweithgareddau diwylliannol i drigolion catrefi preswyl Gwynedd
- Gwelliannau i ganolfannau hamdden Arfon (Caernarfon) a Dwyfor (Pwllheli)
- Cefnogi datblygu cae pob tywydd yn newydd Nhywyn.
- Cynllun ‘Beicio i Bawb’, Antur Waunfawr sydd yn darparu cyfleoedd dysgu beisio drwy ysgolion a chlybiau.
- Ymgyrchoedd Marchnata er mwyn datblygu cynulleidfaoedd newydd a denu ymwelwyr drwy’r flwyddyn.
- Pecyn datblygu economi ymweld gynaliadwy gan gynnwys hyfforddiant, cefnogi cyfleoedd gyrfa i bobl ifanc a gwaith ymchwil.
- Cefnogi Eco-amgueddfa, Prifysgol Bangor er mwyn ymchwilio i ddatblygu ardaloedd ‘eco-amgueddfa’ newydd ym Mangor a Blaenau Ffestiniog.
Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd ynghyd a phartneriaid allanol megis Prifysgol Bangor ac Antur Waunfawr yn ogystal â gweithio ar y cyd gyfer nifer o wasanaethau ar draws Cyngor Gwynedd.
Cychwynnodd y prosiect ar ei wedd gyntaf yn Medi 2023-Mawrth 2025, derbyniodd Cyngor Gwynedd cyllideb o dros £1.6m o gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth Deyrnas Unedig. Mae’r prosiect bellach yn ei ail wedd ar Ebrill 2025-Mawrth 2026 gyda’r gyllideb o £1.35m.
Mae’r prosiect wedi ei ariannu yn bennaf drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU; £988,000 gyda’r gweddill o’r cyfanswm prosiect o £1.35m (oddeutu £360,000) yn cael ei gyllido fel cyd-ariannu gan y Cyngor.
Cronfa Diwyllesiant
Fel rhan o Brosiect Diwyllesiant, agorwyd Cronfa Diwylleisiant Mai 2025 i gefnogi budd a lles Cymunedau, Amgylchedd a Busnesau Gwynedd trwy weithgareddau
- Diwylliannol
- Hamdden
- Economi ymweld gynaliadwy
Rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026 bydd 69 o sefydliadau cymunedol yn cael eu cefnogi ar draws Gwynedd gan gynnwys
- Clybiau Chwaraeon
- Digwyddiadau diwylliannol a chymunedol
- Gweithgareddau i blant a phobl ifanc
- Prosiectau Llesiant
Cronfa Diwyllesiant: Darllen mwy
Mwy o wybodaeth
Cysylltwch â ni: