Rhaid i bob busnes bwyd i arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man priodol a chynghori unrhyw gwsmer o’u sgôr os oes ymholiad.

Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan Cyngor Gwynedd ac mae’n berthnasol i’r canlynol

  • Tai bwyta
  • Tai tafarn
  • Caffis
  • Siopau prydau parod
  • Gwestai
  • Archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.

Fe fydd pob busnes yn derbyn eu sgôr hylendid bwyd yn dilyn archwiliad gan un o swyddogion diogelwch bwyd Cyngor Gwynedd.  Mae mwy o wybodaeth i’w gael ar wefan Yr Asiantaeth Safonau Bwyd. (yn agor mewn tab newydd)


Beth yn union sydd yn digwydd?

Yn ystod yr archwiliad bydd y swyddog yn canolbwyntio ar:

  • Ymarferion hylendid wrth ymdrin â bwyd
  • Cyflwr yr adeilad
  • Sut mae’r busnes yn cael ei reoli

Bydd busnes yn derbyn sgôr hylendid bwyd, sydd yn amrywio o ‘0’ – Angen gwella ar frys i’r sgôr uchaf ‘5’ – Da iawn, yn ddibynnol ar faint mae’r busnes yn cydymffurfio.


Darganfod Sgôr Hylendid Bwyd

Bydd sgôr hylendid pob sefydliad yn cael ei gyhoeddi ar wefan Yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Chwilio am sgôr hylendid bwyd (yn agor mewn tab newydd)


Deddfau perthnasol

Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (yn agor mewn tab newydd)