Rydym yn cynnig gwasanaeth difa pla i gartrefi a busnesau yng Ngwynedd.

Rhestr o'r plâu rydym yn eu trin

Gwneud cais difa pla

Cais am driniaeth difa pla ar-lein (yn agor mewn tab newydd)

(bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)

  • Ffôn: 01766 771000 (08:30 - 17:00, Llun - Gwener)

Gweld telerau ac amodau

Byddwn yn ymdrechu i’ch ffonio'n ôl o fewn 2 awr waith i drefnu dyddiad ac amser cyfleus i ymweld. Byddwn yn ceisio ymweld â chi o fewn 3 diwrnod gwaith.
Os yw'n fater brys y tu allan i'r oriau uchod cysylltwch â chwmni difa pla preifat.


Ffioedd Difa Pla

PlaDomestig (cynnwys TAW)Masnachol (cynnwys TAW)
Llygod Mawr£60.00£95.00
Llygod Bach£60.00£95.00
Chwilen Ddu£150.00£190.00
Chwilen Wely£180.00£220.00
Chwain£80.00£105.00
Gwenyn Meirch£65.00£85.00
Morgrug£65.00£85.00
Pryfetach Eraill£65.00£85.00
Wiwerod£165.00£185.00

* Mae landlordiaid preifat yn destun cyfraddau masnachol.


Gofyn cyngor am bla

Ar ôl i ni dderbyn eich ymholiad byddwn yn ymdrechu i’ch ffonio o fewn 2 awr waith i drafod y cam nesaf.


Creaduriaid rydym yn eu trin

  • Llygod mawr
  • Llygod tŷ
  • Gwenyn meirch
  • Chwilod gwely
  • Morgrug
  • Chwilod du (cocrotsys)
  • Pryfed llyfrau
  • Chwilod bisgedi
  • Chwilod carped
  • Chwain
  • Pryfed clwstwr / Gwybed
  • Gwyfynnod
  • Gwiwerod llwyd
  • Gwiddon llwch tŷ
  • Gwenyn (mewn rhai amgylchiadau yn unig a lle nad oes opsiwn arall ar gael)

Creaduriaid nad ydym yn trin

  • Llau
  • Llwynogod
  • Moch daear
  • Gwylanod
  • Colomennod gwyllt
  • Ystlumod

Gallwn hefyd gynnig gwasanaeth contractau difa pla ar gyfer busnesau a sefydliadau.