Mae contract difa pla yn gytundeb i ddarparu gwasanaeth atal a difa pla i fusnesau a sefydliadau. Bydd swyddog yn monitro'r safle ac yn trin unrhyw bla fel bo'r angen.

Mae’n bosib teilwra contract i gwrdd ag anghenion unigol, a gellir llunio contract 6 mis neu flwyddyn gyfan.

Mae contract safonol yn cynnwys 4 ymweliad i ddelio â llygod (bach neu fawr), yn ogystal â 4 ailymweliad fel bo’r angen. Gellir ychwanegu at nifer yr ymweliadau ac at y math o blâu yr ydych am eu cynnwys o fewn y contract.

Holi am gontract difa pla

Gallwch holi am gontract:

Ar-lein:

Holi am gontract difa pla (yn agor mewn tab newydd)

(y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif)

Ffôn:

01766 771000 (08:30 - 17:00, Llun - Gwener)