Mae’n rhaid i bob ci gael tag ar ei goler sy’n nodi enw a chyfeiriad ei berchennog pan fydd mewn lle cyhoeddus. Os nad oes tag ar goler ci, mae'n bosib y bydd y perchennog yn derbyn dirwy.

Rhaid rhoi microsglodyn ar bob ci dros 8 wythnos oed a chofrestru manylion y perchennog ar gronfa ddata gymeradwy.

Os nad oes gan eich ci ficrosglodyn, gallwch gael eich dirwyo hyd at £500.


Beth mae gosod microsglodyn yn ei olygu?

Mae sglodyn, sydd yr un maint â darn o reis, yn cael ei osod o dan groen y ci. Mae’r sglodyn yn cario rhif gwybodaeth arbennig sy’n dal manylion y perchennog.

Mae gan warden cŵn, milfeddyg, cenel cŵn ac eraill sganwyr. Os bydd y ci’n mynd ar goll, bydd un o'r rhain yn gallu cysylltu â'r perchennog yn syth.


Sut mae cael microsglodyn?

I osod microsglodyn, rhaid cael unigolyn sydd wedi derbyn hyfforddiant.


Cadw’r wybodaeth ar y microsglodyn yn gyfoes

Rhaid i chi ddiweddaru’r wybodaeth sydd ar y microsglodyn, e.e. pan yn symud tŷ rhaid cysylltu â’r cwmni cronfa ddata er mwyn diweddaru eich manylion. Efallai byddwch yn gorfod talu am ddiweddaru'r wybodaeth ar ficrosglodyn eich ci.


Mwy o wybodaeth

Gofyn cyngor ynghylch microsglodion (yn agor mewn tab newydd)
  • Ffôn: 01766 771000