Mae’n rhaid i eiddo sy’n cael ei ddefnyddio gan fusnes bwyd (gan gynnwys stondinau marchnad, cerbydau danfon a strwythurau symudol eraill) gael eu cofrestru. Mae’n rhaid gwneud hyn o leiaf 28 diwrnod cyn cychwyn masnachu. Nid oes ffi am hyn
Os ydych yn bwriadu agor busnes bwyd newydd, eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni a chofrestru’r eiddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y nodiadau cofrestru eiddo bwyd (yn agor mewn tab newydd)
Mae hefyd yn ddyletswydd ar bob busnes bwyd i roi gwybod i ni os bydd unrhyw newid i’r busnes, neu os ydi’r busnes yn cau, a hynny o fewn 28 diwrnod i’r newid.
Sut i gofrestru eiddo bwyd?
Gallwch gofrestru eich busnes ar-lein:
Cofrestru busnes bwyd ar-lein (food.gov.uk) (yn agor mewn tab newydd)
Nid oes tâl am gofrestru bwyd ac ni ellir gwrthod cais cofrestru.
Ar ôl cyflwyno ffurflen gofrestru
Unwaith rydych wedi cwblhau a dychwelyd eich ffurflen, bydd eich manylion yn cael eu rhoi yn ein cronfa ddata. Byddwn yn cadw cofnod o holl safleoedd bwyd sydd wedi cofrestru gyda ni.
Cydnabyddir eich ffurflen gofrestru a bydd aelod o’n Tîm Diogelwch Bwyd yn ymweld â’ch eiddo i gynnal archwiliad hylendid bwyd.
Rhaid i chi roi gwybod i ni os oes unrhyw newid i’ch busnes bwyd, megis gweithredwr busnes newydd neu os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu.
Cysylltu â’n Tîm Diogelwch Bwyd
Gallwch gysylltu â’n Tîm Diogelwch Bwyd am ragor o wybodaeth am gofrestru safle bwyd drwy anfon e-bost at bwyd@gwynedd.llyw.cymru neu drwy ffonio 01766 771 000
Rhagor o wybodaeth
Os ydych yn rhedeg busnes bwyd rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw eiddo a ddefnyddiwch i storio, gwerthu, dosbarthu neu baratoi bwyd. Mae eiddo bwyd yn cynnwys bwytai, gwestai, caffis, siopau, archfarchnadoedd, cantîns staff, ceginau swyddfeydd, warysau, tai llety, cerbydau danfon, trolis bwffe ar drenau, stondinau marchnad a rhai eraill, faniau cŵn poeth a hufen ia, ac ati.
Os ydych yn defnyddio cerbydau ar gyfer eich busnes bwyd mewn cysylltiad ag eiddo parhaol fel siop neu warws, dim ond dweud wrthym faint o gerbydau sydd gennych sy’n rhaid i chi. Does dim angen cofrestru pob cerbyd ar wahân. Os oes gennych un cerbyd neu fwy ond dim eiddo parhaol, rhaid i chi ddweud wrthym yn lle y cânt eu cadw fel arfer.
Gall busnesau bwyd gynnwys darparwyr cartref, clybiau, stondinau marchnad, gwarchodwyr plant, cerbydau ac eiddo domestig os defnyddir hwy i storio, trafod neu baratoi bwyd. Mae bwyd yn cynnwys diod, fferins a bwyd mewn pecynnau. Mae busnes bwyd yn unrhyw fenter – dim ots a yw’n gwneud elw.
Cymeradwyo eiddo bwyd
Gall fod yn rhaid i rai sefydliadau gael eu cymeradwyo dan 853/2004, sy’n edrych yn benodol ar gynnyrch o anifeiliaid. Rhagor o wybodaeth am gymeradwyo eiddo bwyd
Deddfau perthnasol
178/2002: Egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfreithiau bwyd (yn agor mewn tab newydd)
852/2004: Ynghylch hylendid bwyd (yn agor mewn tab newydd)
853/2004: Rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd o anifeiliaid (yn agor mewn tab newydd)
Cofrestr gyhoeddus
Gweld cofrestr cyhoeddus o eiddo bwyd wedi’i cofrestru yng Ngwynedd (yn agor mewn tab newydd)
Gwefannau defnyddiol
The Food Standards Agency (yn agor mewn tab newydd)
The Chartered Institute of Environmental Health (yn agor mewn tab newydd)
Food and Drink Federation (yn agor mewn tab newydd)
DEFRA (yn agor mewn tab newydd)