Mae trwyddedu amgylcheddol yn ffordd o reoli rhai mathau o osodiadau diwydiannol sydd â’r gallu i greu llygredd.
Mwy o wybodaeth
Mae trwyddedu amgylcheddol yn ffordd o reoli rhai mathau o osodiadau diwydiannol sydd â’r gallu i greu llygredd.
Mae tri dosbarth math gwahanol o drwydded, sef:
Trwyddedau Rhan A1
Rheolir gosodiadau sydd angen trwydded A1 gan Asiantaeth yr Amgylchedd a dyma’r diwydiannau a ystyrir yn gyffredinol yw’r rhai sy’n llygru fwyaf. Mae’r gosodiadau hyn yn cynnwys gorsafoedd ynni mawr, gweithiau cemegol a phrosesau diwydiannol trwm. Mae eiddo A1 yn cael eu rheoli o ran gollyngiadau i'r awyr, i'r tir ac i ddŵr. Caiff agweddau amgylcheddol eraill fel sŵn, dirgrynu, rheoli gwastraff a'r defnydd o ynni hefyd eu hystyried.
Trwyddedau Rhan A2
Mae gosodiadau sydd angen trwydded A2 yn cael eu rheoli gan y Cyngor. Ystyrir fod y llygredd gaiff ei greu gan osodiadau o’r fath o risg cymedrol. Mae eiddo A2 hefyd yn cael eu rheoli o ran gollyngiadau i’r awyr, i'r tir, i'r dŵr ac ystyriaethau amgylcheddol eraill.
Trwyddedau Rhan B
Mae diwydiannau neu osodiadau sydd angen trwydded rhan B yn cael eu rheoli o ran gollyngiadau i’r awyr yn unig. Bydd gweithfeydd concrid, prosesau chwarel a llosgwyr olew gwastraff yn syrthio i’r categori hwn.
Rhagor o fanylion
Mae rhagor o wybodaeth a manylion am y gosodiadau sydd angen caniatâd i’w gweld yn y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 (yn agor mewn tab newydd) - Atodlen 1
Mae’n bosib y byddwch angen trwydded i weithredu unrhyw osodiad sy’n ymgymryd â gweithgareddau a restrir yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 - Atodlen 1
Efallai y bydd hefyd angen trwydded ar gyfer gweithgareddau gwaredu gwastraff neu adfer sydd ddim yn eithriedig o dan y rheoliadau.
Os nad ydych yn sicr os oes angen trwydded ai peidio, cysylltwch â ni:
- 01766 771000
- llygredd@gwynedd.llyw.cymru
Mae rhagor o gymorth hefyd ar gael ar wefan Gov.uk (yn agor mewn tab newydd)
Ffurflenni cais
Mae ffurflenni cais am drwyddedau Amgylcheddol Awdurdod Lleol ar gael drwy gysylltu â ni:
- 01766 771000
- llygredd@gwynedd.llyw.cymru
Ceisiadau hwyr
Pan fo gweithredwr wedi bod yn gweithredu gweithgaredd a restrir mewn gosodiad yn anghyfreithlon heb drwydded, gellir gofyn iddo gyflwyno cais ôl weithredol. Bydd ffi ceisiadau ôl weithredol yn uwch.
Newid manylion trwydded
Gall deilydd trwydded bresennol wneud cais i drwydded gael ei haddasu, trosglwyddo neu ildio. Ble fo newid sylweddol arfaethedig i osodiad presennol y drwydded, neu ble fo'r Cyngor o'r farn fod angen newid mewn trwydded rhaid dilyn gweithdrefn ffurfiol. Cysylltwch â ni:
Mae ffi yn daladwy i’r Cyngor pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded neu am amrywio trwydded, trosglwyddo neu ildio trwydded bresennol. Nid oes tâl i drosglwyddo neu ildio trwydded ffi gostyngol.
Wedi i'ch cais gael ei dderbyn byddwn yn anfon anfoneb atoch. Os ydych yn anfon y tâl gyda’ch cais yna bydd anfoneb ôl-weithredol yn cael ei hanfon atoch. Mae hefyd yn bosib talu yn unrhyw un o Siopau Gwynedd (ar ôl i chi dderbyn anfoneb)
Tâl cynhaliaeth
Pan gyflwynir trwydded rhaid i weithredwr y gosodiad gydymffurfio gyda'r amodau, a thalu tâl cynhaliaeth flynyddol i dalu am gostau archwilio'r Cyngor.
Fel arfer mae amodau trwyddedau wedi eu seilio ar nodiadau canllaw sy’n benodol i brosesau’r diwydiant. Gweld nodiadau (yn agor mewn tab newydd)
Bydd y tâl cynhaliaeth a nifer yr archwiliadau blynyddol gan swyddogion y Cyngor yn amrywio ac yn dibynnu os yw’r gosodiad yn cael ei ystyried yn risg isel, canolig neu uchel. Mae gan bob gweithredwr yr hawl i wybod sut mae’r Cyngor yn sefydlu'r cynllun sgorio risg i’w gosodiad.
Mae rhai o’r gosodiadau llai a ystyrir yn llai cymhleth ac sydd â risg isel o lygredd amgylcheddol, yn achosi ffioedd cynhaliaeth blynyddol gostyngol. Mae’r gosodiadau hyn yn cynnwys llosgwyr olew gwastraff, sych-lanhawyr a gorsafoedd petrol.
Os yw cais yn cael ei wrthod neu os nad yw'r gweithredwr yn cytuno gydag unrhyw amodau a osodwyd mewn rhan o drwydded gall gyflwyno apêl i'r Arolygiaeth Gynllunio.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio
Gosodiadau A1
Mae’r holl Mae'r holl osodiadau Rhan A1 yn cael eu rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Gosodiadau A2
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw osodiadau A2 gan Gyngor Gwynedd.
Gosodiadau Rhan B
Gweld cofrestr trwyddedau Rhan B sydd wedi eu cyflwyno gan Gyngor Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)
Cofrestr Awdurdod Lleol o Weithgareddau Gwastraff Eithriedig
Mae eithriadau Trwydded Rheoli Gwastraff i weithgareddau Rhan B sy’n cwrdd â gofynion cyffredinol Rheoliad 17 o Reoliadau TRhG ac yn pennu amodau i’r gweithgaredd a nodir yn Atodlen 3 o Reoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff. Ar hyn o bryd nid oes gan Gyngor Gwynedd unrhyw eithriadau wedi eu cofrestru.
Sylweddau Ymbelydrol
Nid oes gan Gyngor Gwynedd unrhyw gofnod yn y gofrestr sylweddau ymbelydrol ar hyn o bryd.
Cysylltu â ni
Am ragor o wybodaeth, cysyllwch â ni:
- 01766 771000
- llygredd@gwynedd.llyw.cymru