Byddwch angen gwneud cais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro os yn cynnal ddigwyddiad ad-hoc a fydd yn cynnwys unrhyw un o'r isod yng Ngwynedd:

  • gwerthu neu gyflenwi alcohol
  • cynnal adloniant reoledig e.e. canu byw neu chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio
  • darparu bwyd poeth rhwng 11pm a 5am yng Ngwynedd.

Mae ffi o £21 am gyflwyno Rhybudd Digwyddiad Dros Dro.

Gwneud cais

Cofiwch ddarllen y nodiadau canllaw sydd ar ddiwedd y ffurflen gais yn fanwl cyn gwneud eich cais. Ni fydd ad-daliadau ar gael.

Mae'n bwysig cyflwyno'r cais mewn da bryd - oleiaf 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.
Os bydd yn cael ei dderbyn rhwng 5 a 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad bydd yn yn cael ei ystyried fel rhybudd hwyr.
Os na fydd 5 diwrnod gwaith llawn cyn y digwyddiad, bydd yn cael ei ystyried fel cais annilys. (Nid yw diwrnod gwaith llawn yn cynnwys y diwrnod yr ydym yn derbyn y cais na diwrnod y digwyddiad).

Rhagor o wybodaeth

Cofrestr gyhoeddus

Mae digwyddiadau sydd wedi derbyn Rhybudd Digwyddiad Dro yng Ngwynedd i'w gweld ar y gofrestr arlein:

Cofrestr gyhoeddus o rybudd digwyddiadau dros dro yng Ngwynedd (yn agor mewn tab newydd)


Manylion cyswllt

Ffôn: 01766 771000
E-bost: trwyddedu@gwynedd.llyw.cymru (yn agor mewn tab newydd)