Pecyn o gymorth ymarferol ac ariannol i helpu busnesau yng Ngwynedd i nodi a gweithredu mesurau i leihau eu hôl troed carbon, gwella effeithlonrwydd adnoddau a chyfrannu at nodau sero net.
Mae'r pecyn yn cynnwys dau gam:
Bydd busnesau sydd â chais Datganiad Ddiddordeb llwyddiannus yn derbyn cymorth arbenigol i asesu eu hôl troed carbon a nodi cyfleoedd i weithredu mewn ffordd fwy cynaliadwy.
Bydd y cymorth a ddarperir yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:
- asesiad cynhwysfawr o ôl troed carbon a defnydd ynni’r busnes;
- adnabod cyfleoedd i leihau allyriadau carbon a gwella effeithlonrwydd adnoddau;
- argymhellion ar fesurau ac ymyriadau datgarboneiddio addas;
- gwybodaeth a chyngor ar arferion busnes cynaliadwy a chamau tuag at sero net;
- cefnogaeth ymarferol wrth ddatblygu’r prosiect a chwblhau’r ffurflen gais grant.
Nod y cam hwn yw sicrhau bod ymgeiswyr wedi nodi angen clir am fuddsoddiad datgarboneiddio a’u bod mewn sefyllfa gadarn i gyflwyno cais cynhwysfawr ac o ansawdd uchel am grant.
Ni fydd busnesau yn gymwys i gyflwyno cais am grant oni bai eu bod wedi cwblhau’r broses gymorth hon yn llawn, yn unol â gofynion y rhaglen.
Noder nad yw cyflwyno cais yn gwarantu y bydd grant yn cael ei ddyfarnu. Bydd pob cais grant yn cael ei asesu gan banel i sicrhau ei fod yn gyflawn, yn gymwys ac yn cyflwyno achos cadarn dros gefnogaeth cyn ystyrir ei gymeradwyo.
Mae unrhyw grant a ddyrenir drwy’r cynllun hwn wedi’i gyfyngu i angen penodol a nodwyd gan yr ymgynghorydd yn ystod y cyfnod cefnogi. Rhaid i’r angen hwn fod yn hanfodol i ddatblygiad y busnes ac ni ddylai fod modd i’r ymgeisydd gael mynediad at yr un gefnogaeth neu adnodd drwy ffynhonnell arall.
Meini prawf a mwy o wybodaeth
Rhaid i bencadlys y busnes fod yng Ngwynedd. Eich pencadlys yw’r eiddo lle mae y rhan helaeth o weithgareddau’r busnes yn cael eu cynnal.
Dim ond busnesau sydd wedi bod yn weithredol am 12 mis neu fwy sydd yn gymwys i fod yn rhan o’r rhaglen hon.
Sectorau:
Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i geisiadau gan fusnesau sy’n gweithredu o fewn un o naw sector blaenoriaeth Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru. Y sectorau hyn yw:
- Gweithgynhyrchu Uwch
- Adeiladu
- Creadigol a Digidol
- Ynni a’r Amgylchedd
- Ariannol a Proffesiynol
- Bwyd
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Sector Cyhoeddus
- Twristiaeth a Lletygarwch
Er bod croeso i fusnesau o bob sector gyflwyno cais, bydd ceisiadau gan fusnesau sy’n gweithredu o fewn y sectorau blaenoriaeth hyn yn cael eu hystyried yn fwy ffafriol wrth asesu ceisiadau.
Mae’r math o fusnesau canlynol yn gymwys:
- unig fasnachwr
- partneriaeth cofrestredig
- cwmni cyfyngedig (gan cynnwys cwmnïau nad ydynt yn dosbarthu elw)
I gadarnhau statws y busnes bydd rhaid darparu Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) CThEF (HMRC) neu rif cwmni ynghyd â chopi o ddatganiad banc diweddar wrth gyflwyno cais i'r Gronfa.
Gallwn gefnogi busnesau sy’n bodloni’r meini prawf canlynol fel busnesau bach a chanolig (BBaCh):
- cyflogi 250 neu lai o weithwyr (gan gynnwys y perchennog/perchnogion)
- â mantolen o lai na £38 miliwn neu drosiant blynyddol o lai na £44 miliwn
Os yw'r busnes yn rhan o fusnes arall, neu wedi ei gysylltu’n gyfreithiol â busnes arall, bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried yr amgylchiadau unigol cyn penderfynu a yw'n gymwys i dderbyn cefnogaeth.
I fod yn gymwys, rhaid i fusnes fod wedi’i leoli yng Ngwynedd a bod ei gyfeiriad swyddfa gofrestredig o fewn y sir. Gellir ystyried eithriadau i’r gofyniad ynghylch y cyfeiriad cofrestredig mewn achosion lle mae busnes wedi’i gofrestru yng nghyfeiriad cyfrifydd y tu allan i Wynedd; fodd bynnag, efallai y bydd angen darparu tystiolaeth i gadarnhau bod y busnes wedi’i leoli’n bennaf ac yn gweithredu o fewn y sir.
Yn achos unig fasnachwyr / partneriaethau bydd safle gweithredu'r busnes yng Ngwynedd (ystyrir cartref y perchennog yn leoliad y busnes os nad yw'n meddu ar safle penodol).
Ar ddiwedd y cyfnod cefnogaeth, bydd ymgeiswyr yn gallu gwneud cais am grant o £2,500 hyd at £12,000, sy’n cynrychioli hyd at 70% o gostau cymwys nodwyd o fewn y cais ar gyfer busnesau sy’n tyfu.
Bydd yn ofynnol i fusnesau dalu’r holl costau cymwys o flaen llaw. Wedi cwblhau’r gwariant ac ar gyflwyno tystiolaeth briodol, gall busnesau hawlio ad-daliad o hyd at 70% o’r costau cymwys drwy Gyngor Gwynedd.
Rydym yn disgwyl i chi gyfrannu o leiaf 20% o gostau’r prosiect o arian preifat, sef cynilion, neu benthyciad – mi fydd angen i chi dangos prawf fod yr arian yma ar gael i chi cyn allwn ni asesu’ch cais
Mae’r grant yma yn cael ei ariannu’n rhannol trwy Gronfa Twf Lleol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Petaech yn dymuno defnyddio arian grant arall fel rhan o’r 10% sy’n weddill o gostau eich prosiect, mi fydd angen i chi dangos tystiolaeth bod y cyllidwr yn fodlon i chi ddefnyddio’r arian fel arian cyfatebol ar gyfer nawdd Gronfa Twf Lleol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
Mae’r gronfa hon yn un cystadleuol – h.y. bydd y ceisiadau yn cael i sgorio ac eu hasesu yn erbyn y ceisiadau eraill a derbynnir.
Mae’r Canllaw Sgorio, sydd yn egluro yn fanwl sut y bydd pob cais yn cael ei asesu ar gael ar wahân.
Wrth asesu'r cais bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried:
A fydd y rhaglen yn helpu’r busnes i:
- • Leihau allyriadau ag ôl-troed carbon
- Mabwysiadu technoleg neu prosesau newydd
- Lleihau costau gweithredu'r busnes yn yr hir-dymor drwy fesurau datgarboneiddio • Hyrwyddo arferion busnes mwy cynaliadwy ar draws y sefydliad
Wrth ymgeisio am cais llawn, ar diwedd y broses cymorth, bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried a yw’r busnes yn fodlon ymrwymo i:
- Dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol os yn cyflogi staff (dros 18 oed) erbyn Rhagfyr 2027 fan bellaf.
- Ymrwymo i ymgymryd a gweithgareddau penodol i wella’u defnydd o’r Gymraeg. Fel rhan o’ch cais, mi fydd angen i chi gynnig 3 gweithgaredd penodol i wella’ch defnydd o’r Gymraeg o fewn eich busnes. Caiff y gweithgareddau hyn cael eu monitro, ac os nad ydynt wedi’u gweithredu erbyn Mawrth 2027, mae gan Cyngor Gwynedd yr hawl i adhawlio unrhyw arian grant.
Caiff y gweithgareddau yr ydych yn cynnig eu hasesu wrth sgorio eich cais, o ran faint o effaith y maent yn debygol o gael (wele’r Canllaw Sgorio am fwy o fanylder). Gallwch chi gynnig gweithgareddau sydd yn addas i'ch busnes, ond gall enghreifftiau o wella’ch defnydd o’r Gymraeg yn cynnwys:
1. Trefnu i aelodau o staff di-gymraeg derbyn gwersi Cymraeg
2. Trefnu aelodau staff sydd yn siarad Cymraeg mynychu cwrs Gloywi Iaith
3. Cynnal gweithgareddau penodol o fewn eich busnes i hybu’r Gymraeg
4. Creu cynnyrch sydd ag enw Cymraeg
5. Sicrhau bod pob adnodd sydd wedi’i argraffu yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog (arwyddion, bwydlenni, pamffledi a.y.b.)
Cyhoeddi’r pecyn cais i roi cyfle i fusnesau paratoi yn barod i wneud cais erbyn 11 Awst, 2026.
Agor – 14 Awst, 2026
Cau – 30 Medi, 2026
Cyhoeddi canlyniadau – Erbyn 7 Hydref, 2026
Os oes angen addasu’r amserlen wrth fynd, mi fydd newidiadau yn cael eu cyhoeddi yn Bwletin Busnes@Gwynedd.
Rhaid i’r holl eitemau fod yn fuddsoddiadau cyfalaf sy’n cefnogi’r busnes i fabwysiadu technolegau, offer newydd a fydd yn gwella cynhyrchiant, effeithlonrwydd neu berfformiad y busnes.
Yn penodol, rydym yn chwilio am geisiadau sydd yn:
- Cyfrannu at arbedion costau ag effeithlonrwydd ynni y busnes
- Ychwanegu gwerth hirdymor
- Yn dangos effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd a gwydnwch
- Yn gallu cael eu gweithredu a’u cwblhau o fewn yr amserlen a nodir
Bydd yn ofynnol i bob prosiect gael ei gwblhau o fewn 3 mis o dderbyn y llythyr cynnig grant, ar ôl gweithio gydag arbenigwr a derbyn argymhellion perthnasol. Felly, sicrhewch nad ydych yn gwneud cais am nwyddau neu wasanaethau na ellir eu harchebu, eu derbyn a’u talu amdanynt o fewn y cyfnod hwnnw.
Nid yw’r canlynol yn gymwys:
- Prynu tir ac/neu eiddo domestig
- Eiddo preswyl/domestig ac eithrio llety gwyliau sy’n cwrdd a diffiniad Llywodraeth Cymru o eiddo gwyliau masnachol, sef: Eiddo sydd ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod a chael ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 182 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Mi fydd angen darparu tystiolaeth bod yr eiddo dan sylw yn cwrdd a’r diffiniad.
- Cerbydau
- Gwaith atgyweirio, cynnal a chadw a/neu gostau rhedeg busnes cyffredinol
- Prynu offer sydd eu hangen er mwyn cydymffurfio â rheoliadau statudol
- Costau staffio
- TAW adferadwy
- Offer na fydd wedi'i leoli yng Ngwynedd
- Prynu stoc
- Prynu asedau dan gytundebau Hire Purchase (HP), Cytundebau Credyd Estynedig neu Brydles
Wrth ymgeisio
Mae Menter Gwynedd: Rhaglen Cymorth i Fusnesau 26/27 yn cael ei dosrannu ar sail gystadleuol. Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf sgorio a nodir isod, gan roi ystyriaeth i'r canlynol:
- Addasrwydd i'r rhaglen
- Potensial ac effaith
- Ansawdd y syniad / cynnig
- Parodrwydd a gallu’r person
Bydd disgwyl i ymgeiswyr gwblhau’r gyfres o sesiynau cymorth busnes cyn cael eu gwahodd i gyflwyno cais am grant.
| Elfen | Disgrifiad | Sgor |
| Addasrwydd i'r rhaglen | A yw’r ymgeisydd yn ffitio’r meini prawf (BBaCH Gwynedd)? A yw’r cynnig yn cyd-fynd â nodau’r rhaglen (eisiau lleihau costau drwy datgarboneiddio)? | 0–1: Dim aliniad clir / anghymwys 2-3: Rhywfaint o aliniad ond heb fod yn gryf 4–5: Alinio’n iawn + cyfraniad cryf i nodau’r rhaglen |
| Potensial ac effaith | A oes potensial i arbed costau / datgarboneiddio y busnes yn sylweddol? A oes potensial i leihau allyriadau carbon a chefnogi nodau datgarboneiddio'r busnes? Potensial i weithredu fel esiampl o arfer da ac annog gweithgarwch datgarboneiddio pellach yn y busnes. | 0–1: Effaith aneglur neu fach iawn 2–3: Effaith gymedrol ond ddim wedi’i feintioli 4–5: Effaith glir, mesuradwy a sylweddol |
| Ansawdd y syniad/cynnig | Pa mor glir yw’r disgrifiad o’r busnes? Pa broblem neu her y bydd y prosiect hwn yn ei ddatrys i'r busnes? | 0–1: Diffyg eglurder / ansawdd isel 2–3: Syniad da ond diffyg manylder neu dystiolaeth 4–5: Cynnig clir a meddylgar |
| Parodrwydd a’r person | Adran 3, C4 Sgiliau a phrofiad yr ymgeisydd/tîm A yw’r nod i ddatblygu yn realistig? | 0–1: Afrealistig / dim gallu clir i gyflawni 2–3: Rhai risgiau heb eu trin yn llawn 4–5: Syniad realistig + gallu profedig |
| Ydi’r unigolyn yn dangos ymroddiad a chymhelliant dros dysgu a gwella? | Adran 3, C1,2,3 | 0–1: Enghraifft wan wedi’i roi 2–3: Enghraifft derbyniol wedi’i roi 4–5: Enghraifft wych wedi’i roi |
| Ydi’r unigolyn yn dangos gwydnwch? | Adran 3, C5,6 | 0–1: Enghraifft wan wedi’i roi 2–3: Enghraifft derbyniol wedi’i roi 4–5: Enghraifft wych wedi’i roi |
| Ydi’r unigolyn yn dangos creadigrwydd? | Adran 3, C7 | 0–1: Enghraifft wan wedi’i roi 2–3: Enghraifft derbyniol wedi’i roi 4–5: Enghraifft wych wedi’i roi |
| Ydi’r unigolyn yn gallu gweithio gydag eraill? | Adran 3, C8 | 0–1: Enghraifft wan wedi’i roi 2–3: Enghraifft derbyniol wedi’i roi 4–5: Enghraifft wych wedi’i roi |
| Ydi’r unigolyn yn gallu tystiolaethu eu bod yn berson cyfrifol? | Adran 3, C9 | 0–1: Enghraifft wan wedi’i roi 2–3: Enghraifft derbyniol wedi’i roi 4–5: Enghraifft wych wedi’i roi |
| Elw Blynyddol | Efallai y byddem yn ystyried y ffactorau hyn | |
| Trosiant Misol | Efallai y byddem yn ystyried y ffactorau hyn | |
| Costau Misol | Efallai y byddem yn ystyried y ffactorau hyn | |
| Costau Misol Trydan | Efallai y byddem yn ystyried y ffactorau hyn | |
| Defnydd Misol Trydan | Efallai y byddem yn ystyried y ffactorau hyn |
Mae’r rhaglen hon yn un cystadleuol – h.y. bydd y ffurflenni datgan diddordeb yn cael i sgorio ac eu hasesu yn erbyn y ceisiadau eraill a derbynnir o fewn eu categorïau (Busnesau newydd a Busnesau wedi’i sefydlu)
Mae’r Canllaw Sgorio, sydd yn egluro yn fanwl sut y bydd pob cais yn cael ei asesu ar gael ar wahân.
Wrth asesu'r ffurflen datgan diddordeb bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried y ffactorau isod, a bydd y rhaglen yn helpu’r busnes i:
- Leihau allyriadau ag ôl-troed carbon
- Mabwysiadu technoleg neu prosesau newydd
- Lleihau costau gweithredu'r busnes yn yr hir-dymor drwy fesurau datgarboneiddio
- Hyrwyddo arferion busnes mwy cynaliadwy ar draws y sefydliad
Wrth ymgeisio am cais llawn, ar ddiwedd y broses cymorth, bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried a yw’r busnes yn fodlon ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol (nodwch fod y dudalen yma ar gael yn Saesneg yn unig) os yn cyflogi staff (dros 18 oed) erbyn Rhagfyr 2027 fan bellaf.
Bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried a yw’r busnes yn fodlon ymrwymo i ymgymryd a gweithgareddau penodol i wella’u defnydd o’r Gymraeg. Fel rhan o’ch cais, mi fydd angen i chi gynnig 3 gweithgaredd penodol i wella’ch defnydd o’r Gymraeg o fewn eich busnes. Caiff y gweithgareddau hyn cael eu monitro, ac os nad ydynt wedi’u gweithredu erbyn Mawrth 2027, mae gan Cyngor Gwynedd yr hawl i adhawlio unrhyw arian grant.
Caiff y gweithgareddau yr ydych yn cynnig eu hasesu wrth sgorio eich cais, o ran faint o effaith y maent yn debygol o gael (gwelwch y Canllaw Sgorio am fwy o fanylder). Gallwch chi gynnig gweithgareddau sydd yn addas i'ch busnes, ond gall enghreifftiau o wella’ch defnydd o’r Gymraeg yn cynnwys:
- Trefnu i aelodau o staff di-gymraeg derbyn gwersi Cymraeg
- Trefnu aelodau staff sydd yn siarad Cymraeg mynychu cwrs Gloywi Iaith
- Cynnal gweithgareddau penodol o fewn eich busnes i hybu’r Gymraeg
- Creu cynnyrch sydd ag enw Cymraeg
- Sicrhau bod pob adnodd sydd wedi’i argraffu yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog (arwyddion, bwydlenni, pamffledi a.y.b)
Ffactorau pwysig i'w nodi
Rhaid i bob eitem unigol gostio o leiaf £300
Rhaid darparu dyfynbrisiau fel a ganlyn:
- Eitemau sy’n costio llai na £10,000 (gan gynnwys TAW) – un dyfynbris
- Eitemau sy’n costio mwy na £10,001 (gan gynnwys TAW) – tri dyfynbris
- Eitemau sy’n costio mwy na £100,000 (gan gynnwys TAW) – Tendr agored
Ni allwch brynu offer neu nwyddau gydag arian parod
Arhoswch tan eich bod wedi derbyn cynnig swyddogol o’r grant, ac wedyn ei ddychwelyd yn ôl i ni cyn prynu unrhyw offer sy’n rhan o’ch cais. Ni allwn ad-dalu unrhyw wariant sydd wedi’i wneud cyn i ni wneud cynnig swyddogol o’r grant, a’i dderbyn yn ôl gennych chi.
Darperir y grant yma o dan Isafswm Cymorth Ariannol (ICA) Deddf Rheoli Cymhorthdal (2022). Nid yw'r cyllid yn cwmpasu mwy na £315,000 dros gyfnod cyllidol o dair blynedd fel 'Isafswm Cymorth Ariannol (ICA), yn unol â'r Ddeddf Rheoli Cymhorthdal (2022).
Felly, er mwyn cadarnhau eich bod yn gallu cael y cymorth hwn, fel y nodir yn adran 36(1) o'r Ddeddf Rheoli Cymhorthdal (2022) rhaid i chi ddatgan swm llawn o gymorth Cymorth Gwladwriaeth yr UE de Minimus/SAFA/SPEI/ICA rydych chi wedi’i gael yn ystod y 36 mis diwethaf.
Mae’n ofynnol i chi gwblhau’r ffurflen Rheoli Cymhorthdal berthnasol ar wahân fel rhan o’r broses ymgeisio hon.
Er mwyn cefnogi’r cadwyn cyflenwi lleol, rydym yn gofyn i chi ystyried defnyddio cyflenwyr o Wynedd. Ni fydd yr elfen yma yn effeithio ar asesiad eich cais, ond disgwylir i chi egluro pa camau yr ydych wedi cymryd i ddod o hyd i gyflenwr o Wynedd, a’ch rhesymau dros peidio a’i ddefnyddio os ydych yn penderfynu defnyddio cyflenwr arall.
Nodwch fod gan Cyngor Gwynedd disgresiwn llwyr i gefnogi cais i'r rhaglen ac mae penderfyniadau y Cyngor yn derfynol. Bydd penderfyniadau Cyngor Gwynedd yn amodol ar y budd rhagwelir ac yn llwyr ddibynnol ar argaeledd cyllid.
Rydym yn disgwyl galw mawr am y cymorth hwn ac yn anffodus, dim ond cyfran o'r ceisiadau a dderbyniwn fyddwn yn gallu eu cefnogi.
Amserlen:
- Cyhoeddi’r pecyn cais i roi cyfle i fusnesau paratoi yn barod i wneud cais: 11 Awst, 2026.
- Agor: 14 Awst, 2026
- Cau: 30 Medi, 2026
- Cyhoeddi canlyniadau: 7 Hydref, 2026
Os oes angen addasu’r amserlen wrth fynd, mi fydd newidiadau yn cael eu cyhoeddi yn Bwletin Busnes@Gwynedd.
Tanysgrifio: Bwletin Cefnogi Busnes (yn agor mewn tab newydd)