Mae'r math o gymorth sydd ar gael o dan y Rhaglen Datblygu Busnes yn dibynnu ar os ydych yn fusnes newydd, neu yn fusnes wedi'i sefydlu.
- Busnes newydd: Pecyn o gymorth ymarferol ac ariannol i gefnogi busnesau newydd, gyda flaenoriaeth i unigolion 18–30 oed, menywod, pobl o gymunedau lleiafrif ethnig a phobl anabl.
- Busnesu wedi'i sefydlu: Pecyn o gymorth ymarferol ac ariannol i gefnogi busnesau wedi'i sefydlu i dyfu a datblygu.
Mae'r pecynnau yn cynnwys dau gam, sydd hefyd yn wahanol yn ddibynnol ar ba math o fusnes sydd yn ymgeisio. Bydd y busnesau sy’n llwyddiannus yng ngham 1 yn cael eu gwahodd i symud ymlaen i gam 2 y rhaglen.
Busnesau Newydd
Cyfnod o cefnogaeth ymarferol er mwyn sicrhau bod ymgeiswyr wedi datblygu eu syniad busnes i safon briodol, a’u bod mewn sefyllfa gadarn i gyflwyno cais cynhwysfawr ac o ansawdd uchel am grant.
Bydd y cymorth a ddarperir yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:
- arweiniad ar ddatblygu cynllun busnes;
- cymorth ar faterion marchnata a sefyllfa’r farchnad;
- gwybodaeth sylfaenol am reolaeth ariannol a gweithrediadau busnes;
- cefnogaeth ymarferol wrth gwblhau’r ffurflen gais grant.
Ni fydd busnesau yn gymwys i gyflwyno cais am grant oni bai eu bod wedi cwblhau’r broses gymorth hon yn llawn, yn unol â gofynion y cynllun.
Cyflwyno’r cais am grant i’w asesu. Noder nad yw cyflwyno cais yn gwarantu y bydd grant yn cael ei ddyrannu. Bydd pob cais grant yn cael ei asesu gan banel i sicrhau ei fod yn gyflawn, yn gymwys ac yn cyflwyno achos cadarn dros gefnogaeth cyn ystyrir ei gymeradwyo.
Mae unrhyw grant a ddyrernir drwy’r cynllun hwn wedi’i gyfyngu i angen penodol a nodwyd gan yr ymgynghorydd yn ystod y cyfnod cefnogi. Rhaid i’r angen hwn fod yn hanfodol i ddatblygiad y busnes ac ni ddylai fod modd i’r ymgeisydd gael mynediad at yr un gefnogaeth neu adnodd drwy ffynhonnell arall.
Busnesau wedi'u sefydlu
Cyfnod o gefnogaeth i ddatblygu gweithgareddau presennol / syniadau newydd ac i gryfhau cynlluniau datblygu'r busnes, a sicrhau bod eu cynigion yn gadarn, yn realistig ac yn unol ag amcanion y cynllun.
Bydd y cymorth a ddarperir yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:
· cymorth i ddatblygu a mireinio cynlluniau twf neu ehangu;
· arweiniad ar strategaethau marchnata a datblygu marchnadoedd;
· cefnogaeth ar gynllunio ariannol a rhagolygon;
· cymorth ymarferol wrth gwblhau’r ffurflen gais grant.
Ni fydd busnesau yn gymwys i gyflwyno cais am grant oni bai eu bod wedi cwblhau’r broses gymorth hon yn llawn, yn unol â gofynion y rhaglen.
Cyflwyno’r cais am grant i’w asesu. Noder nad yw cyflwyno cais yn gwarantu y bydd grant yn cael ei ddyfarnu. Bydd pob cais grant yn cael ei asesu gan banel i sicrhau ei fod yn gyflawn, yn gymwys ac yn cyflwyno achos cadarn dros gefnogaeth cyn ystyrir ei gymeradwyo.
Mae unrhyw grant a ddyrernir drwy’r cynllun hwn wedi’i gyfyngu i angen penodol a nodwyd gan yr ymgynghorydd yn ystod y cyfnod cefnogi. Rhaid i’r angen hwn fod yn hanfodol i ddatblygiad y busnes ac ni ddylai fod modd i’r ymgeisydd gael mynediad at yr un gefnogaeth neu adnodd drwy ffynhonnell arall.
Meini prawf a mwy o wybodaeth
Rhaid i bencadlys y busnes fod yng Ngwynedd. Eich pencadlys yw’r eiddo lle mae y rhan helaeth o weithgareddau’r busnes yn cael eu cynnal.
Sectorau:
Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i geisiadau gan fusnesau sy’n gweithredu o fewn un o naw sector blaenoriaeth Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru. Y sectorau hyn yw:
- Gweithgynhyrchu Uwch
- Adeiladu
- Creadigol a Digidol
- Ynni a’r Amgylchedd
- Ariannol a Proffesiynol
- Bwyd
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Sector Cyhoeddus
- Twristiaeth a Lletygarwch
Er bod croeso i fusnesau o bob sector gyflwyno cais, bydd ceisiadau gan fusnesau sy’n gweithredu o fewn y sectorau blaenoriaeth hyn yn cael eu hystyried yn fwy ffafriol wrth asesu ceisiadau.
Busnes newydd:
Diffinnir busnes newydd fel busnes nad yw eto wedi’i gofrestru’n ffurfiol (CThEF na Tŷ’r Cwmnïau) nac wedi dechrau masnachu ar adeg cyflwyno’r cais.
Busnes wedi’i sefydlu:
Mae’r math o fusnesau canlynol yn gymwys:
- unig fasnachwr
- partneriaeth cofrestredig
- cwmni cyfyngedig (gan cynnwys cwmnïau nad ydynt yn dosbarthu elw)
I gadarnhau statws y busnes bydd rhaid darparu Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) CThEM (HMRC) neu rif cwmni ynghyd â chopi o ddatganiad banc diweddar wrth gyflwyno cais i'r Gronfa.
Gallwn gefnogi busnesau sy’n bodloni’r meini prawf canlynol fel busnesau bach a chanolig (BBaCh):
- cyflogi 250 neu lai o weithwyr (gan gynnwys y perchennog/perchnogion)
- â mantolen o lai na £38 miliwn neu drosiant blynyddol o lai na £44 miliwn
Os yw'r busnes yn rhan o fusnes arall, neu wedi ei gysylltu’n gyfreithiol â busnes arall, bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried yr amgylchiadau unigol cyn penderfynu a yw'n gymwys i dderbyn cefnogaeth.
I fod yn gymwys, rhaid i fusnes fod wedi’i leoli yng Ngwynedd a bod ei gyfeiriad swyddfa gofrestredig o fewn y sir. Gellir ystyried eithriadau i’r gofyniad ynghylch y cyfeiriad cofrestredig mewn achosion lle mae busnes wedi’i gofrestru yng nghyfeiriad cyfrifydd y tu allan i Wynedd; fodd bynnag, efallai y bydd angen darparu tystiolaeth i gadarnhau bod y busnes wedi’i leoli’n bennaf ac yn gweithredu o fewn y sir.
Yn achos unig fasnachwyr / partneriaethau bydd safle gweithredu'r busnes yng Ngwynedd (ystyrir cartref y perchennog yn leoliad y busnes os nad yw'n meddu ar safle penodol).
Busnesau newydd:
Ar ddiwedd y cyfnod cefnogaeth, bydd ymgeiswyr yn gallu gwneud cais am grant o £2,500 hyd at £5,000, sy’n cynrychioli hyd at 80% o gostau cymwys nodwyd o fewn y cais ar gyfer busnesau newydd. Bydd yn ofynnol i fusnesau dalu’r holl costau cymwys o flaen llaw. Wedi cwblhau’r gwariant ac ar gyflwyno tystiolaeth briodol, gall busnesau hawlio ad-daliad o hyd at 80% o’r costau cymwys drwy Gyngor Gwynedd.
Bydd yn ofynnol i’r busnes gyfrannu’r 20% sy’n weddill o gyfanswm y grant. Rydym yn disgwyl i chi gyfrannu o leiaf 10% o gostau’r prosiect o arian preifat, sef cynilion, neu benthyciad, mi fydd angen i chi dangos prawf fod yr arian yma ar gael i chi cyn allwn ni asesu’ch cais.
Mae’r grant yma yn cael ei ariannu’n rhannol trwy Gronfa Twf Lleol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Petaech yn dymuno defnyddio arian grant arall fel rhan o’r 10% sy’n weddill o gostau eich prosiect, mi fydd angen i chi dangos tystiolaeth bod y cyllidwr yn fodlon i chi ddefnyddio’r arian fel arian cyfatebol ar gyfer nawdd Gronfa Twf Lleol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
Busnesau wedi’i sefydlu:
Ar ddiwedd y cyfnod cefnogaeth, bydd ymgeiswyr yn gallu gwneud cais am grant o £2,500 hyd at £12,000, sy’n cynrychioli hyd at 70% o gostau cymwys nodwyd o fewn y cais ar gyfer busnesau sy’n tyfu.
Bydd yn ofynnol i fusnesau dalu’r holl costau cymwys o flaen llaw. Wedi cwblhau’r gwariant ac ar gyflwyno tystiolaeth briodol, gall busnesau hawlio ad-daliad o hyd at 70% o’r costau cymwys drwy Gyngor Gwynedd.
Rydym yn disgwyl i chi gyfrannu o leiaf 20% o gostau’r prosiect o arian preifat, sef cynilion, neu benthyciad – mi fydd angen i chi dangos prawf fod yr arian yma ar gael i chi cyn allwn ni asesu’ch cais
Mae’r grant yma yn cael ei ariannu’n rhannol trwy Gronfa Twf Lleol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Petaech yn dymuno defnyddio arian grant arall fel rhan o’r 10% sy’n weddill o gostau eich prosiect, mi fydd angen i chi dangos tystiolaeth bod y cyllidwr yn fodlon i chi ddefnyddio’r arian fel arian cyfatebol ar gyfer nawdd Gronfa Twf Lleol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
Rhaid i’r holl eitemau fod yn fuddsoddiad cyfalaf sy’n cefnogi busnes newydd, twf, arloesi neu gynyddu cynhyrchiant.
Yn penodol, rydym yn chwilio am geisiadau sydd yn:
- Cyfrannu at dwf a chynhyrchiant y busnes
- Ychwanegu gwerth hirdymor
- Cefnogi arloesi neu ddatblygiad newydd o fewn y busnes
- Yn dangos effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd a gwydnwch
- Yn gallu cael eu gweithredu a’u cwblhau o fewn yr amserlen a nodir
- Ar gyfer busnesau newydd: yn cefnogi sefydlu’r busnes a’i wneud yn weithredol (e.e. offer hanfodol neu systemau)
- Ar gyfer busnesau newydd: yn dangos potensial clir ar gyfer twf, denu cwsmeriaid a chreu incwm
Bydd yn ofynnol i bob prosiect gael ei gwblhau o fewn 3 mis o dderbyn y llythyr cynnig grant, ar ôl cwblhau’r gyfres o sesiynau cymorth busnes. Sicrhewch, felly, nad ydych yn gwneud cais am nwyddau na ellir eu harchebu, eu derbyn a’u talu amdanynt o fewn y cyfnod hwnnw.
Nid yw’r canlynol yn gymwys:
· Prynu tir ac/neu eiddo domestig
· Eiddo preswyl/domestig ac eithrio llety gwyliau sy’n cwrdd a diffiniad Llywodraeth Cymru o eiddo gwyliau masnachol, sef: Eiddo sydd ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod a chael ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 182 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Mi fydd angen darparu tystiolaeth bod yr eiddo dan sylw yn cwrdd a’r diffiniad.
· Cerbydau
· Gwaith atgyweirio, cynnal a chadw a/neu gostau rhedeg busnes cyffredinol
· Prynu offer sydd eu hangen er mwyn cydymffurfio â rheoliadau statudol
· Costau staffio
· TAW adferadwy
· Offer na fydd wedi'i leoli yng Ngwynedd
· Prynu stoc
· Prynu asedau dan gytundebau Hire Purchase (HP), Cytundebau Credyd Estynedig neu Brydles
Caiff ceisiadau eu dynodi ar sail cystadleuol. Byddem yn anelu i gadw at yr amserlen isod:
- Cyhoeddi’r pecyn cais i roi cyfle i fusnesau paratoi yn barod i wneud cais: 11 Awst, 2026
- Agor: 14 Awst, 2026
- Cau: 30 Medi, 2026
- Cyhoeddi canlyniadau: 7, 2026??????
Os oes angen addasu’r amserlen wrth fynd, bydd newidiadau yn cael eu cyhoeddi yn Bwletin Busnes@Gwynedd
Wrth ymgeisio
Mae Menter Gwynedd: Rhaglen Cymorth i Fusnesau 26/27 yn cael ei dosrannu ar sail gystadleuol. Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf sgorio a nodir isod, gan roi ystyriaeth i'r canlynol:
- Addasrwydd I'r rhaglen
- Potensial ac effaith
- Ansawdd y syniad / cynnig
- Parodrwydd a gallu’r person
Bydd disgwyl i ymgeiswyr gwblhau’r gyfres o sesiynau cymorth busnes cyn cael eu gwahodd i gyflwyno cais am grant.
| Elfen | Disgrifiad | Sgor |
| Addasrwydd i'r rhaglen | A yw’r ymgeisydd yn ffitio’r meini prawf? (ystyried unrhyw blaenoriaethau) A yw’r cynnig yn cyd-fynd â nodau’r rhaglen (Busnes neu syniad hefo potensial am twf?) | 0–1: Dim aliniad clir / anghymwys 2–3: Rhywfaint o aliniad ond heb fod yn gryf 4–5: Aligned iawn + cyfraniad cryf i nodau’r rhaglen |
| Potensial ac effaith | A oes potensial i dyfu’r busnes yn sylweddol? A yw’r syniad/cynnig yn scalable? Potensial i greu swyddi neu incwm ychwanegol dros amser Datblygu cynnyrch / gwasanaeth newydd | 0–1: Effaith aneglur neu fach iawn 2–3: Effaith gymedrol ond ddim wedi’i feintioli 4–5: Effaith glir, mesuradwy a sylweddol |
| Ansawdd y syniad/cynnig | Pa mor glir yw’r disgrifiad o’r busnes / syniad Dealltwriaeth o’r farchnad a chystadleuaeth Arloesedd / unigrywiaeth y cynnig | 0–1: Diffyg eglurder / ansawdd isel 2–3: Syniad da ond diffyg manylder neu dystiolaeth 4–5: Cynnig clir a meddylgar |
| Parodrwydd a gallu'r person | Adran 3, C4 Sgiliau a phrofiad yr ymgeisydd/tîm A yw’r nod i ddatblygu yn realistig? | 0–1: Anrealistig / dim gallu clir i gyflawni 2–3: Rhai risgiau heb eu trin yn llawn 4–5: Syniad realistig + gallu profedig |
| Ydi’r unigolyn yn dangos ymroddiad a chymhelliant dros dysgu a gwella? | Adran 3, C1,2,3 | 0–1: Engraifft wan wedi’i roi 2–3: Engraifft derbyniol wedi’i roi 4–5: Enghraifft wych wedi’i roi |
| Ydi’r unigolyn yn dangos gwydnwch? | Adran 3, C5,6 | 0–1: Engraifft wan wedi’i roi 2–3: Engraifft derbyniol wedi’i roi 4–5: Enghraifft wych wedi’i roi |
| Ydi’r unigolyn yn dangos creadigrwydd? | Adran 3, C7 | 0–1: Engraifft wan wedi’i roi 2–3: Engraifft derbyniol wedi’i roi 4–5: Enghraifft wych wedi’i roi |
| Ydi’r unigolyn yn gallu gweithio gydag eraill? | Adran 3, C8 | 0–1: Engraifft wan wedi’i roi 2–3: Engraifft derbyniol wedi’i roi 4–5: Enghraifft wych wedi’i roi |
| Ydi’r unigolyn yn gallu tysiolaethu eu bod yn berson cyfrifol? | Adran 3, C9 | 0–1: Engraifft wan wedi’i roi 2–3: Engraifft derbyniol wedi’i roi 4–5: Enghraifft wych wedi’i roi |
Mae’r rhaglen hon yn un cystadleuol – h.y. bydd y ffurflenni datgan diddordeb yn cael i sgorio ac eu hasesu yn erbyn y ceisiadau eraill a derbynnir o fewn eu categorïau (Busnesau newydd a Busnesau wedi’i sefydlu)
Mae’r Canllaw Sgorio, sydd yn egluro yn fanwl sut y bydd pob cais yn cael ei asesu ar gael ar wahân.
Wrth asesu'r ffurflen datgan diddordeb bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried y ffactorau isod, a bydd y rhaglen yn helpu’r busnes i:
- Ddechrau neu sefydlu o’r newydd (Busnes newydd)
- Datblygu cynhyrchion neu wasanaethau newydd
- Dyfu ac ehangu gweithgareddau’r busnes
- Gwella cynnyrch neu gwasanaeth sydd eisoes yn bodoli
- Cryfhau cynaliadwyedd a hyfywedd tymor hir y busnes
- Os ydych yn fusnes wedi’i sefydlu, gweithio gyda Busnes Cymru i cwblhau Cynllun Lleihau Carbon
Wrth ymgeisio am cais llawn, ar ddiwedd y broses cymorth, bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried a yw’r busnes yn fodlon ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol (nodwch fod y dudalen yma ar gael yn Saesneg yn unig) os yn cyflogi staff (dros 18 oed) erbyn Rhagfyr 2027 fan bellaf.
Bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried a yw’r busnes yn fodlon ymrwymo i ymgymryd a gweithgareddau penodol i wella’u defnydd o’r Gymraeg. Fel rhan o’ch cais, mi fydd angen i chi gynnig 3 gweithgaredd penodol i wella’ch defnydd o’r Gymraeg o fewn eich busnes. Caiff y gweithgareddau hyn cael eu monitro, ac os nad ydynt wedi’u gweithredu erbyn Mawrth 2027, mae gan Cyngor Gwynedd yr hawl i adhawlio unrhyw arian grant.
Caiff y gweithgareddau yr ydych yn cynnig eu hasesu wrth sgorio eich cais, o ran faint o effaith y maent yn debygol o gael (gwelwch y Canllaw Sgorio am fwy o fanylder). Gallwch chi gynnig gweithgareddau sydd yn addas i'ch busnes, ond gall enghreifftiau o wella’ch defnydd o’r Gymraeg yn cynnwys:
- Trefnu i aelodau o staff di-gymraeg derbyn gwersi Cymraeg
- Trefnu aelodau staff sydd yn siarad Cymraeg mynychu cwrs Gloywi Iaith
- Cynnal gweithgareddau penodol o fewn eich busnes i hybu’r Gymraeg
- Creu cynnyrch sydd ag enw Cymraeg
- Sicrhau bod pob adnodd sydd wedi’i argraffu yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog (arwyddion, bwydlenni, pamffledi a.y.b)
Ffactorau pwysig i'w nodi
Rhaid i bob eitem unigol gostio o leiaf £300
Rhaid darparu dyfynbrisiau fel a ganlyn:
- Eitemau sy’n costio llai na £10,000 (gan gynnwys TAW) – un dyfynbris
- Eitemau sy’n costio mwy na £10,001 (gan gynnwys TAW) – tri dyfynbris
- Eitemau sy’n costio mwy na £100,000 (gan gynnwys TAW) – Tendr agored
Ni allwch brynu offer neu nwyddau gydag arian parod.
Arhoswch tan eich bod wedi derbyn cynnig swyddogol o’r grant, ac wedyn ei ddychwelyd yn ôl i ni cyn prynu unrhyw offer sy’n rhan o’ch cais. Ni allwn ad-dalu unrhyw wariant sydd wedi’i wneud cyn i ni wneud cynnig swyddogol o’r grant, a’i dderbyn yn ôl gennych chi.
Darperir y grant yma o dan Isafswm Cymorth Ariannol (ICA) Deddf Rheoli Cymhorthdal (2022). Nid yw'r cyllid yn cwmpasu mwy na £315,000 dros gyfnod cyllidol o dair blynedd fel 'Isafswm Cymorth Ariannol (ICA), yn unol â'r Ddeddf Rheoli Cymhorthdal (2022).
Felly, er mwyn cadarnhau eich bod yn gallu cael y cymorth hwn, fel y nodir yn adran 36(1) o'r Ddeddf Rheoli Cymhorthdal (2022) rhaid i chi ddatgan swm llawn o gymorth Cymorth Gwladwriaeth yr UE de Minimus/SAFA/SPEI/ICA rydych chi wedi’i gael yn ystod y 36 mis diwethaf.
Mae’n ofynnol i chi gwblhau’r ffurflen Rheoli Cymhorthdal berthnasol ar wahân fel rhan o’r broses ymgeisio hon.
Er mwyn cefnogi’r cadwyn cyflenwi lleol, rydym yn gofyn i chi ystyried defnyddio cyflenwyr o Wynedd. Ni fydd yr elfen yma yn effeithio ar asesiad eich cais, ond disgwylir i chi egluro pa camau yr ydych wedi cymryd i ddod o hyd i gyflenwr o Wynedd, a’ch rhesymau dros peidio a’i ddefnyddio os ydych yn penderfynu defnyddio cyflenwr arall.
Nodwch fod gan Cyngor Gwynedd disgresiwn llwyr i gefnogi cais i'r rhaglen ac mae penderfyniadau y Cyngor yn derfynol. Bydd penderfyniadau Cyngor Gwynedd yn amodol ar y budd rhagwelir ac yn llwyr ddibynnol ar argaeledd cyllid.
Rydym yn disgwyl galw mawr am y cymorth hwn a dim ond cyfran o'r ceisiadau a dderbyniwn fyddwn yn gallu eu cefnogi.
Amserlen
Caiff ceisiadau eu dynodi ar sail cystadleuol. Byddem yn anelu i gadw at yr amserlen isod:
- Cyhoeddi’r pecyn cais i roi cyfle i fusnesau paratoi yn barod i wneud cais: 11 Awst, 2026
- Agor: 14 Awst, 2026
- Cau: 30 Medi, 2026
- Cyhoeddi canlyniadau: 7 Hydref, 2026
Os oes angen addasu’r amserlen wrth fynd, bydd newidiadau yn cael eu cyhoeddi yn Bwletin Busnes@Gwynedd
Tanysgrifio: Bwletin Cefnogi Busnes (yn agor mewn tab newydd)