Ym mis Hydref 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd £546.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru rhwng 2026 a 2029 drwy’r Gronfa Twf Lleol.

Nod y Gronfa yw cefnogi twf cynhyrchiant, cryfhau economïau rhanbarthol a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd ledled Cymru. Bydd y Gronfa yn cyfrannu at genhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru i godi safonau byw, cefnogi twf mwy cytbwys a helpu i haneru'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU dros y deng mlynedd nesaf.

Mae’r Gronfa yn canolbwyntio ar dair prif flaenoriaeth:

  • Blaenoriaeth 1: Busnesau mwy cynhyrchiol a chystadleuol
  • Blaenoriaeth 2: Cynyddu sgiliau a chefnogi pobl i weithio
  • Blaenoriaeth 3: Gwella seilwaith rhanbarthol

Daeth y Gronfa i rym ar 1 Ebrill 2026. Mae canllawiau Cronfa Twf Lleol (yn agor mewn tab newydd) gan Lywodraeth Cymru yn esbonio sut bydd y Gronfa yn gweithredu yn ymarferol yn ystod y tair mlynedd nesaf. Ar gyfer 2026-27, mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu fel yr awdurdod arweiniol ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru. O 2027-28 ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu ac yn dyfarnu cyllid i Uchelgais Gogledd Cymru fel y Cyd-bwyllgor Corfforedig rhanbarthol.

Mae cyfanswm o £33.98 miliwn wedi ei ddyrannu i ranbarth Gogledd Cymru ar gyfer 2026-27 gyda 70% (£23.65 miliwn) yn arian cyfalaf a 30% (£10.33 miliwn) yn arian refeniw. Y dyraniad ar gyfer 2027-28 fydd £41.44 miliwn, ac yn 2028-29 bydd yn £39.92 miliwn.


Cronfa Twf Lleol: Gwynedd

Mae £6.2 miliwn o arian wedi ei glustnodi ar gyfer cynlluniau yng Ngwynedd yn ystod 2026-27 gyda 70% yn arian cyfalaf a 30% yn arian refeniw.

Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol a phartneriaid rhanbarthol yn cynllunio sut i ddefnyddio'r cyllid hwn i gefnogi twf economaidd cynaliadwy, cynhyrchiant, cyflogaeth a datblygu seilwaith yn unol â blaenoriaethau'r Gronfa a Chanllawiau Llywodraeth Cymru. Bydd pob prosiect sy'n derbyn cymorth yn cael ei fonitro a'i werthuso yn erbyn Fframwaith Dangosyddion y Gronfa Twf Lleol.

Mae Menter Gwynedd: Rhaglen Cymorth Busnes 2026/27 yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru, gyda'r cyllid yn cael ei ddarparu drwy Cyngor Gwynedd. Os ydych yn awyddus i gychwyn neu dyfu eich busnes, gwneud gwell defnydd o dechnoleg neu leihau eich effaith amgylcheddol, gall y rhaglen eich helpu i archwilio cyfleoedd a chael mynediad at gymorth sy'n adlewyrchu eich uchelgeisiau a'ch blaenoriaethau.
Os am wybodaeth pellach cysylltwch â busnes@gwynedd.llyw.cymru


Strategaeth Economi Gwynedd

Bydd strategaeth Gwynedd 2035: Economi sy’n Gweithio i Bawb yn sail i gydlynu gweithgareddau economaidd lleol, adnabod blaenoriaethau buddsoddi ac ystyried pa brosiectau ddylai gael eu cefnogi drwy'r Gronfa Twf Lleol a ffynonellau ariannu eraill.


Cysylltu â ni

Cysylltwch â TwfLleol@gwynedd.llyw.cymru am fwy o wybodaeth.