Ni fydd yn bosib cael mynediad i ganolfan ailgylchu heb archebu slot o flaen llaw.
Mae’r canolfannau ailgylchu at ddefnydd trigolion Gwynedd.
Dim ond gwastraff cartref fydd yn cael ei dderbyn yn y canolfannau. Peidiwch â dod â gwastraff masnachol na gwastraff busnes.
Dim ond UN waith cewch chi fynediad i’r ganolfan yn ystod eich slot.
Mae CEIR a THRELARS dim mwy na 2.4m x 1.2m (8’ x 4’), yn cael mynd i’r Canolfannau. DIM trelars mwy na hynny.
Wrth archebu slot bydd Cyngor Gwynedd yn defnyddio gwybodaeth gyhoeddus gan y DVLA i wirio beth yw categori eich cerbyd er mwyn penderfynu a oes angen Trwydded Fan i gael mynediad i’r Canolfannau Ailgylchu.
FANIAU: Er mwyn cael mynediad i Ganolfannau Ailgylchu Cyngor Gwynedd, rhaid cael Trwydded Fan ar gyfer cerbydau yn y categori N1 [Cerbydau wedi eu dylunio a’u hadeiladu i gludo nwyddau gydag uchafswm màs heb fod yn fwy na 3,5 tunnell gael trwydded].Os oes gan gerbydau yn y categori N1 ffenestri a seddi yn y cefn NID oes rhaid cael trwydded. Rhagor o wybodaeth am drwydded fan
Peidiwch â chyrraedd y ganolfan fwy na 10 munud CYN AMSER DECHRAU eich slot.
Rhaid cyrraedd y ganolfan o leiaf 10 munud CYN DIWEDD eich slot.
Os oes gennych nifer o eitemau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd mewn da bryd. Rhaid dadlwytho eich cerbyd cyn diwedd y slot amser, neu mae’n bosib y bydd staff y ganolfan ailgylchu yn gofyn i chi adael.
Dim ond UN person gaiff ddod allan o’r car i ddadlwytho y gwastraff yn y ganolfan. Rhaid blant aros yn y car bob amser, ac ni chaniateir anifeiliaid anwes ar y safle.
Peidiwch â dod ag eitemau sy'n rhy fawr neu'n rhy drwm i chi eu codi eich hun. Os oes gennych eitemau mawr defnyddiwch y gwasanaeth casglu gwastraff swmpus.
Trefnwch eich gwastraff cyn dod i’r ganolfan fel bod posib dadlwytho mor gyflym â phosib. Bydd yr un sgipiau ag arfer yn y canolfannau er mwyn didoli gwastraff.
Rhaid i wastraff cartref (household waste) (nad oes posib ei ailgylchu) fod mewn bagiau cyn ei roi yn y sgip (ag eithrio gwastraff gardd).
Nid ydym yn derbyn gwastraff PLASTIGION MEDDYGOL e.e. chwistrell / tiwb bwydo plastig. Trafodwch y ffordd fwyaf addas i’w gwaredu gyda’ch nyrs gymunedol.
Os yn mynd â GWASTRAFF GARDD mewn bagiau i’r ganolfan rhaid gwagio’r gwastraff gardd o’r bagiau wrth ei roi yn y sgip
Er eich bod yn archebu slot, mae’n bosib bydd ciwiau ar adegau. Rydym yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar ac yn barchus wrth y staff fydd yn trio eu gorau i gael pawb drwy’r ganolfan mor ddiogel a chyn gynted ag sy’n bosib
Bydd trefniadau rheoli traffig mewn grym, a bydd staff yn gwirio rhif cofrestru pob cerbyd i wneud yn siŵr eu bod wedi archebu slot o flaen llaw.
Dewch â hylif glanhau dwylo (hand sanitizer) efo chi os yn bosib (defnyddiwch i olchi eich dwylo wrth adael y ganolfan).
Defnyddiwch y gwasanaeth ailgylchu wythnosol i gael gwared ar wastraff mae modd ei ailgylchu. Gallwn gasglu mwy na llond y cartgylchu os ydi’r gwastraff wedi ei wahanu mewn bocsys.
Ni fydd ymddygiad bygythiol na threisgar yn cael ei oddef a byddwn yn gofyn i chi adael y ganolfan.
Weithiau bydd rhaid i'r canolfannau ailgylchu gau ar fyr rybudd oherwydd tywydd garw. Ni chymerir y penderfyniadau hyn yn ysgafn ac fe'u gwneir i amddiffyn ein gweithlu a holl ddefnyddwyr y safle rhag niwed. O dan yr amgylchiadau hyn bydd angen i ddefnyddwyr y safle ail-archebu slot.