Pwy sy’n gymwys?
Yn gryno, busnesau:
• sydd yn derbyn bil Trethi Busnes (hyd yn oed nad oes gofyn i dalu unrhyw beth);
• oedd yn masnachu hyd at 13 Rhagfyr 2021 a fydd yn / oedd wedi bwriadu masnachu drwy gydol y cyfnod hyd at 14 Chwefror 2022;
• gyda’u heiddo ar y rhestr ardrethu ar 1 Medi 2021 ac oedd yn meddiannu'r eiddo ar 30 Tachwedd 2021;
• yn y sectorau lletygarwch, manwerthu, twristiaeth neu hamdden (all gynnwys elusennau neu sefydliadau dielw);
• neu yn rhan o gadwyn cyflenwi’r sectorau uchod ac yn rhagweld gostyngiad o 40% yn eu trosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.
Ceir manylion pellach yng nghanllawiau’r cymorth.
Noder mai dim ond llety hunanarlwyo ar gyfer 30 neu fwy o westai neu sy’n ganolfan addysg awyr agored fydd yn gymwys i dderbyn cymorth.
Faint o arian sydd i’w gael?
Gall busnesau cymwys dderbyn un o’r canlynol ar gyfer hyd at ddau eiddo yng Ngwynedd (bydd angen cyflwyno cais ar gyfer pob eiddo unigol):
Grant A
£2,000 ar gyfer busnesau yn meddu eiddo gyda gwerth ardrethol o hyd at £12,000.
Grant B
£4,000 ar gyfer busnesau yn meddu eiddo gyda gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000.
Grant C
£6,000 ar gyfer busnesau yn meddu eiddo gyda gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £500,000.
Mae manylion pellach yng nghanllawiau’r cymorth.
Sut mae derbyn yr arian?
Mae’n ofynnol cwblhau a chyflwyno ffurflen cofrestru cyn gellid derbyn unrhyw arian:
a) darllenwch ganllawiau’r cymorth yn ofalus
b) sicrhewch fod eich Cyfeirnod Ardrethi Busnes wrth law (os na wyddoch eich cyfeirnod cysylltwch â trethiannomestig@gwynedd.llyw.cymru)
c) dilynwch y ddolen isod i gwblhau’r ffurflen cofrestru
Rhaid cyflwyno pob ffurflen cofrestru cyn 5:00pm ar 14 Chwefror 2022.
Oes mwy o gymorth i’w gael?
Gall busnesau:
• gyda throsiant (cyfanswm gwerthiant) blynyddol o £85,000 neu fwy;
• sy’n talu treth incwm drwy law ‘Talu Wrth Ennill’ (PAYE);
• yn gofrestredig gyda Thŷ’r Cwmnïau / Comisiwn Elusennau neu’n gofrestredig ar gyfer TAW / wedi eithrio o TAW; ac,
• rhagweld lleihad o 60% neu fwy yn eu trosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.
gyflwyno cais am gymorth ychwanegol o Gronfa Cadernid Economaidd COVID-19: Rhagfyr 2021 - Chwefror 2022 Llywodraeth Cymru drwy ymweld â gwefan Busnes Cymru yma.
I sicrhau eich bod yn gwybod am unrhyw gymorth newydd cyn gynted â phosib, cofiwch gofrestru ar gyfer cylchlythyr cefnogi busnes y Cyngor a’n dilyn @BusnesGwynedd