Mae’n rhaid i bob plentyn o oedran ysgol statudol (rhwng 5-16 oed) dderbyn addysg sy’n addas i’w anghenion. Mae hyn yn golygu ei bod yn ddyletswydd ar rieni neu warcheidwad plentyn i sicrhau bod y plentyn wedi cofrestru mewn ysgol ac yn mynychu’n rheolaidd neu bod darpariaeth addas arall ar gael.
Mae’r mwyafrif o blant a phobl ifanc yn cael addysg drwy’r system ysgolion, yn mynychu yn aml ac yn cyflawni hyd eithaf eu gallu. Dim ond canran isel o ddisgyblion sy’n triwantu.
gall gael trafferth cadw ar ben ei waith ysgol
bydd yn colli yr ochr gymdeithasol o’r ysgol - cyfeillgarwch, gweithgareddau cymdeithasol, clybiau, chwaraeon ac ati sydd i gyd yn help er mwyn ei baratoi at fod yn oedolyn
gall gael ei ddenu i ymddwyn yn anghymdeithasol neu droseddu - mae ymchwil yn profi bod plant sydd ddim yn mynychu ysgol yn gyson neu’n triwantu'n aml yn llai tebygol o lwyddo yn yr ysgol ac yn fwy tebygol o ymddwyn yn anghymdeithasol neu droseddu
mae’n fwy tebygol o fod yn ddi-waith wedi gadael yr ysgol
dechrau yn yr ysgol
cadw mewn cysylltiad cyson gydag ysgol eich plentyn, trwy fynychu pob noson rieni ac ati fel bod eich plentyn yn gwybod bod gennych ddiddordeb yn eu cynnydd
rhowch wybod i’r ysgol os ydi’ch plentyn yn absennol am reswm go iawn fel salwch a chysylltwch â’r ysgol ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb fel bo staff yn gwybod fod eich plentyn yn saff
cefnogwch yr ysgol yn eu hymdrechion i reoli ymddygiad gwael a cheisiwch annog eich plentyn i ddilyn rheolau’r ysgol
peidiwch â chadw eich plentyn o’r ysgol ar gyfer penblwyddi, tripiau siopa neu apwyntiadau meddygol neu ddeintydd sydd ddim yn bwysig - gall y rhain aros tan bod yr ysgol wedi cau
ceisiwch osgoi mynd ar wyliau yn ystod y tymor gan y gall hyn ansefydlogi eich plentyn a’i wneud yn anodd iddynt ddal i fyny gyda’r gwaith
peidiwch â chuddio'r ffaith na gwneud esgusodion
dywedwch wrtho nad ydych yn hapus ei fod yn triwantu
cysylltwch gyda’r ysgol i drafod unrhyw broblemau a all fod yn poeni eich plentyn
gofynnwch am fanylion cyswllt y Swyddog Lles Addysg ar gyfer ysgol eich plentyn - gallant gynnig cyngor a chefnogaeth i’ch plentyn os ydynt yn cael problemau
mae’r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am wirio bod plant sydd wedi eu cofrestru mewn ysgol ac o oedran ysgol statudol yn mynychu’n rheolaidd - bydd y Swyddog Lles Addysg ar gyfer ysgol eich plentyn yn archwilio achosion o bresenoldeb gwael ac yn fodlon gweithio’n agos gyda chi er mwyn ceisio atal y triwantu
os bydd eich plentyn yn triwantu dro ar ôl tro, neu’n peidio â mynychu’r ysgol yn rheolaidd gall yr Awdurdod Lleol benderfynu gweithredu’n gyfreithiol er mwyn sicrhau eu presenoldeb
gall yr Awdurdod Lleol weithredu mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys gwneud cais i’r Llys am Orchymyn Goruchwylio Addysg, rhoi dirwy neu erlyn a all arwain at ddirwy neu hyd yn oed garchar.