Symud ysgol / mynediad yn ystod blwyddyn ysgol

Os ydych eisiau symud eich plentyn o un ysgol i un arall (nid symud o’r cynradd i’r uwchradd) rydym yn awgrymu eich bod yn trafod gyda phenaethiaid yr ysgolion perthnasol yn y lle cyntaf.

Cyn llenwi’r ffurflen gais:

Cais ar-lein: Mynediad ysgolion (yn agor mewn tab newydd)

(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)


Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwch yn derbyn ymateb i'ch cais o fewn 15 diwrnod ysgol.

Os bydd caniatâd yn cael ei roi bydd angen trefnu’r union ddyddiad dechrau gyda'r ysgol.

Os ydych yn gwneud cais i symud ysgol byddwn yn rhoi gwybod i ysgol bresennol y plentyn.

Os ydych wedi gwneud cais am le yn Ysgol Santes Helen neu Ysgol Ein Harglwyddes byddwn yn gyrru eich cais ymlaen atyn nhw. Y nhw sydd yn gyfrifol am eu trefniadau mynediad eu hunain ac yn arbenigo mewn darparu addysg Gatholig. Mae’n bosib y byddant yn cysylltu â chi am ragor o wybodaeth er mwyn gallu prosesu eich cais e.e. ydi eich plentyn wedi ei fedyddio yn Gatholig a’i peidio.


Gweld neu ddiweddaru cais

I weld neu ddiweddaru cais rydych wedi ei gyflwyno, ewch i’ch cyfrif Cyngor Gwynedd ar-lein a chlicio ar ‘Fy ngheisiadau’. Mynd i Fy Nghyfrif (yn agor mewn tab newydd)


Mwy o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni / Polisi mynediad ysgolion Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)

Neu cysylltwch â ni:

Ni all yr Awdurdod drafod argaeledd llefydd mewn unrhyw ysgol dros y ffôn.