Os ydi eich plentyn chi ar fin gadael ysgol Babanod (Ysgol Morfa Nefyn neu Ysgol Abercaseg), bydd angen gwneud cais am le ym mlwyddyn 3 neu 4 mewn ysgol arall.
Rhaid gwneud cais cyn 15 Ionawr 2027 (ar gyfer Medi 2027).
Cyn llenwi’r ffurflen, cofiwch:
- dylech ddarllen y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni / Polisi mynediad ysgolion Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)
- Nid yw gwneud cais yn gwarantu mynediad i unrhyw ysgol.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwch yn cael eich hysbysu am y canlyniad ar 16 Ebrill.
Ceisiadau hwyr
Mae angen gwneud y cais cyn 15 Ionawr 2027 (ar gyfer Medi 2027). Mae'n bosib gwneud cais ar ôl y dyddiad yma, ond bydd yn cael ei ystyried fel cais hwyr ac mae'n bosib na fyddwch yn eich hysbysu am y canlyniad ar 16 Ebrill.
Gweld neu ddiweddaru cais
I weld neu ddiweddaru cais rydych wedi ei gyflwyno, ewch i’ch cyfrif Cyngor Gwynedd ar-lein a chlicio ar ‘Fy ngheisiadau’. Mynd i Fy Nghyfrif (yn agor mewn tab newydd)
Mwy o wybodaeth
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni / Polisi mynediad ysgolion Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)
Neu cysylltwch â ni:
- mynediadysgol@gwynedd.llyw.cymru
- 01286 679904.
Ni all yr Awdurdod drafod argaeledd llefydd mewn unrhyw ysgol dros y ffôn.