Mae gan blant sy’n 4 oed cyn 1 Medi hawl i addysg llawn amser mewn ysgol gynradd (dosbarth Derbyn).
Mae angen gwneud cais am le mewn dosbarth Derbyn hyd yn oed os yw eich plentyn wedi bod yn mynychu dosbarth Meithrin yn yr ysgol.
Rhaid gwneud cais cyn 15 Ionawr 2027 (ar gyfer Medi 2027).
Cyn llenwi’r ffurflen gais:
- dylech ddarllen y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni / Polisi mynediad ysgolion Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)
- Nid yw gwneud cais yn gwarantu mynediad i unrhyw ysgol.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd rhieni yn cael eu hysbysu am ganlyniad eu cais mewn llythyr erbyn 16 Ebrill.
Os ydych wedi gwneud cais am le yn Ysgol Santes Helen neu Ysgol Ein Harglwyddes byddwn yn gyrru eich cais ymlaen iddyn nhw. Maen nhw’n gyfrifol am eu trefniadau mynediad eu hunain, ac yn arbenigo mewn darparu addysg Gatholig. Byddwn yn cydgordio gyda nhw i sicrhau y byddwch yn derbyn un cynnig o le yn unig. Byddant angen ragor o wybodaeth gennych er mwyn gallu prosesu eich cais, e.e. ydi eich plentyn wedi cael bedydd Catholig a’i peidio. Ar ôl cwblhau ffurflen gais Cyngor Gwynedd, bydd angen i chi gysylltu gyda nhw er mwyn cwblhau ffurflen ychwanegol.
Gweld neu ddiweddaru cais
I weld neu ddiweddaru cais rydych wedi ei gyflwyno, ewch i’ch cyfrif Cyngor Gwynedd ar-lein a chlicio ar ‘Fy ngheisiadau’. Mynd i Fy Nghyfrif (yn agor mewn tab newydd)
Ceisiadau hwyr
Mae angen gwneud y cais am le mewn dosbarth Derbyn cyn 15 Ionawr 2027 (ar gyfer Medi 2027). Os bydd y cais yn cael ei dderbyn ar ôl y dyddiad yma bydd yn cael ei ystyried fel cais hwyr.
Mwy o wybodaeth
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni / Polisi mynediad ysgolion Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)
Neu cysylltwch â ni:
Ni all yr Awdurdod drafod argaeledd llefydd mewn unrhyw ysgol dros y ffôn.
NODER: Disgwylir bod pob plentyn yn gallu ddefnyddio'r toiled cyn cychwyn yn yr ysgol, oni bai bod ganddynt gyflwr meddygol neu anghenion dysgu ychwanegol.
Cymorth gyda thoiledu a mwy o wybodaeth (yn agor mewn tab newydd)