Mae gan blant sy’n 3 oed cyn 1 Medi hawl i addysg rhan-amser mewn ysgol gynradd (dosbarth Meithrin).

Rhaid gwneud cais cyn 15 Ionawr 2027 (ar gyfer Medi 2027).

Cyn llenwi’r ffurflen gais:

Cais ar-lein: Mynediad ysgolion (yn agor mewn tab newydd)

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwch yn cael eich hysbysu am y canlyniad ar 16 Ebrill.

Os ydych wedi gwneud cais am le yn Ysgol Santes Helen neu Ysgol Ein Harglwyddes byddwn yn gyrru eich cais ymlaen iddyn nhw. Maen nhw’n gyfrifol am eu trefniadau mynediad eu hunain, ac yn arbenigo mewn darparu addysg Gatholig. Byddwn yn cydgordio gyda nhw i sicrhau y byddwch yn derbyn un cynnig o le yn unig. Byddant angen ragor o wybodaeth gennych er mwyn gallu prosesu eich cais, e.e. ydi eich plentyn wedi cael bedydd Catholig a’i peidio. Ar ôl cwblhau ffurflen gais Cyngor Gwynedd, bydd angen i chi gysylltu gyda nhw er mwyn cwblhau ffurflen ychwanegol.


Gweld neu ddiweddaru cais

I weld neu ddiweddaru cais rydych wedi ei gyflwyno, ewch i’ch cyfrif Cyngor Gwynedd ar-lein a chlicio ar ‘Fy ngheisiadau’. Mynd i Fy Nghyfrif (yn agor mewn tab newydd)


Ceisiadau hwyr

Mae angen gwneud y cais am le mewn dosbarth Meithrin cyn 15 Ionawr 2027 (ar gyfer Medi 2027). Mae'n bosib gwneud cais ar ôl y dyddiad yma, ond bydd yn cael ei ystyried fel cais hwyr ac mae'n bosib na fyddwch yn eich hysbysu am y canlyniad ar 16 Ebrill.


Mwy o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni / Polisi mynediad ysgolion Gwynedd

Neu cysylltwch â ni:


Gweler hefyd

Ni all yr Awdurdod drafod argaeledd llefydd mewn unrhyw ysgol dros y ffôn.