Yn ei gyfarfod ar 9 Mehefin 2026, mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cymeradwyo yn derfynol y cynnig i “gau Ysgol Y Garreg 31 Awst 2026 a dynodi Ysgol Cefn Coch fel yr ysgol amgen o 1 Medi 2026.”
Datblygwyd y cynnig o ganlyniad i’r prif heriau oedd yn wynebu’r ysgol, sef:
- Niferoedd isel iawn o ddysgwyr yn mynychu’r ysgol – roedd dau ddysgwr ar y gofrestr yng nghyfrifiad CYBLD Ionawr 2026;
- Canran uchel o lefydd gweigion gyda 95% o lefydd gweigion yn yr ysgol (dosbarth Derbyn i Blwyddyn 6);
- Rhagamcanion yn seiliedig ar niferoedd CYBLD Ionawr 2026 yn awgrymu na fydd dysgwyr o oedran statudol yn yr ysgol ym mis Medi 2026 gan nad oes dysgwyr yn y dosbarthiadau Derbyn i blwyddyn 5 nac ychwaith yn y dosbarth Meithrin.
Y mae’r Awdurdod o’r farn yn dilyn cynnal y cyfnod gwrthwynebu, na fyddai'r un o’r opsiynau eraill, gan gynnwys ffederaleiddio, yn mynd i’r afael a’r prif heriau sydd yn wynebu’r ysgol ac mai gweithredu’r cynnig yw’r ymateb mwyaf priodol i sefyllfa Ysgol Y Garreg.
Yn unol â chanllawiau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018 mae’n ofynnol i rannu penderfyniad y Cabinet ar ffurf Llythyr Penderfyniad gyda’r rhanddeiliaid a nodir yn y cod.
Llythyr Penderfyniad (yn agor mewn tab newydd)