Daeth y cyfnod gwrthwynebu i ben ar 30 Mehefin 2026.

Hysbysiad Statudol: Cynnig i gau Ysgol Nebo

Yn dilyn cynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i gau Ysgol Nebo, cyflwynwyd adroddiad ymgynghori i Gabinet Cyngor Gwynedd ar 19 Mai 2026. Ar ôl ystyried cynnwys yr adroddiad, penderfynodd y Cabinet fel a ganlyn:

“Ystyriwyd cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol (Adroddiad Ymgynghori) ar y cynnig i gau Ysgol Nebo ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Llanllyfni o 1 Ionawr 2027 ymlaen, a chymeradwywyd cyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.”

Yn unol â’r penderfyniad uchod, mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi heddiw (3 Mehefin 2026) Hysbysiad Statudol ar y cynnig gau Ysgol Nebo ar 31 Rhagfyr 2026 ac i ddarparu lle i’r dysgwyr yn Ysgol Llanllyfni o 1 Ionawr 2027 ymlaen. Mae copi o’r Hysbysiad Statudol ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

Hysbysiad Statudol: Cynnig i gau Ysgol Nebo (yn agor mewn tab newydd)

Cyfnod gwrthwynebu

Daeth y cyfnod gwrthwynebu i ben ar 30 Mehefin 2026.

Mwy...