Os ydych chi’n berson sy’n gallu cydweithio efo bobl eraill, eisiau dysgu rywbeth newydd a chyfrannu at eich cymuned, dylech ystyried dod yn lywodraethwr.

Rôl llywodraethwr

Fel llywodraethwr rydych yn weithiwr gwirfoddol sydd â diddordeb mewn addysgu neu ddysgu, sy’n cynrychioli aelodau yn y gymuned a staff yr ysgol. Rydych yn aelod o dîm sy'n derbyn cyfrifoldeb am bopeth mae ysgol yn ei gyflawni, yn darparu cefnogaeth i'r ysgol, ac yn rhoi eich barn ar safonau a materion rheoli.

Mae gan bob ysgol gorff llywodraethu, sydd fel arfer yn cynnwys:

  • Rhiant-lywodraethwr
  • Llywodraethwyr yr Awdurdod Addysg Lleol
  • Llywodraethwyr Cymunedol
  • Llywodraethwyr Cymunedol ychwanegol
  • Llywodraethwyr Sylfaenol
  • Athro-lywodraethwr
  • Staff-lywodraethwr

Sut i ddod yn lywodraethwr

Cysylltwch â'r Uned Cefnogi Llywodraethwyr:

Ffôn: (01286) 679 303

Cyfeiriad: Uned Gefnogi Llywodraethwyr, Swyddfa Addysg, Cyngor Gwynedd, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH


Hyfforddiant

I gofrestru ar gyfer cwrs, cysylltwch â ni:

  • 01286 679 303

Gweld llawlyfr llywodraethwyr 2025/26 (yn agor mewn tab newydd)