Mynd ar wyliau yn ystod tymor ysgol
Rydym yn gofyn i chi osgoi mynd ar wyliau yn ystod tymor ysgol os yn bosibl.
Os oes raid i chi dynnu plant o'r ysgol yn ystod y tymor bydd yn rhaid i chi drafod a chytuno gyda'ch ysgol.
Blwyddyn 2026 / 2027:
Y dyddiadau tymhorau a gyfarwyddir gan weinidogion Cymru ar gyfer blwyddyn ysgol 2026-2027.
Bydd yr ysgolion yn ail-agor ddydd Mawrth, 1 Medi, 2026 i athrawon yn unig.
Bydd disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol dydd Mercher, 2 Medi 2026. (Gall y dyddiad yma amrywio rhwng ysgolion. Cysylltwch â'r ysgol os nad ydych yn sicr).
Mae 6 diwrnod hyfforddiant arall i’w cymryd gan bob ysgol yn ystod 2026-27. Cysylltwch â’r ysgol am wybodaeth.
Gwyliau Ysgol 2026/27 – Fersiwn iCalendar
(Lawrlwythwch y ffeiI yma i'ch ffôn os am mwyn arbed dyddiadau gwyliau ysgol i galendr eich ffôn. Mae'r ffeil yn cael ei chefnogi gan Outlook, Apple a Google)
| Gwyliau ysgol | Yn cychwyn | Yn gorffen |
|---|---|---|
| Hanner tymor Hydref | 26 Hydref 2026 | 30 Hydref 2026 |
| Gwyliau Nadolig | 21 Rhagfyr 2026 | 1 Ionawr 2027 |
| Hanner Tymor Gwanwyn | 8 Chwefror 2027 | 12 Chwefror 2027 |
| Gwyliau Pasg | 22 Mawrth 2027 | 2 Ebrill 2027 |
| Calan Mai (gŵyl banc) | 3 Mai 2027 | |
| Hanner tymor Haf | 31 Mai 2027 | 4 Mehefin 2027 |
| Gwyliau Haf | 21 Gorffennaf 2027 | 31 Awst 2027 |