Help efo costau ysgol: Grant Hanfodion Ysgol

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu arian ar gyfer Cynllun Grant Hanfodion Ysgol.

Pwrpas y Cynllun yw i alluogi’r Cyngor i ddarparu cymorth grant i deuluoedd sydd ar incwm isel ar gyfer prynu:

  • Gwisg Ysgol yn cynnwys cotiau ac esgidiau;
  • Dillad Ymarfer Corff yn cynnwys esgidiau;
  • Cyfarpar TG: gliniadur a thabledi YN UNIG (Dylid defnyddio’r Grant Hanfodion Ysgol o dan amgylchiadau cyfyngedig yn unig, lle nad yw ysgol yn gallu benthyca offer i'r teulu)
  • Gwisg ar gyfer gweithgaredd cyfoethogi, yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i, scowts; geidiaid; cadlanciaid; karate ac ati; chwaraeon; celfyddydau perfformio neu ddawns;
  • Offer e.e. bagiau ysgol neu ddeunyddiau;
  • Offer arbenigol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau megis dylunio a thechnoleg;
  • Offer ar gyfer teithiau tu allan i oriau ysgol megis dysgu awyr agored e.e. dillad dal dŵr.

Nid yw’n restr faith.


Pwy sy'n gymwys a faint sydd ar gael?

Mae’r Arian yn £125 ar gyfer pob disgybl heblaw ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 lle mae’r ffigwr yn £200.00.

Mae'r Arian ar gael i ddisgyblion sy’n gymwys i dderbyn Cinio Ysgol am Ddim (ond nid y rhai sy’n cael eu Gwarchod Dros dro) neu sy’n derbyn gofal, ac yn:

  • Dosbarth Derbyn i Blwyddyn 11 mewn ysgol sy’n cael ei chynnal ym mis Medi 2025; neu
  • Mynd i ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion ac sy'n 4, 5, 7, 9, 11, 12, 13, 14 neu 15 oed ym mis Medi 2025
  • Plant sy'n derbyn gofal o oedran ysgol gorfodol ac sy'n cael eu hystyried yn blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol. Yr Awdurdod Lleol lle mae'r plentyn yn mynychu'r ysgol sy'n gyfrifol am roi'r grant.

Meini Prawf ar gyfer y grant:

Os ydych yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol yna fe allwch fod gyda hawl i dderbyn Grant:

  • Lwfans Cymorth a Chyflogaeth (sail incwm)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm)
  • Credyd Pensiwn (Gwarant)
  • Cymorth o dan Deddf Lloches a Mewnfudo 1999 (Dim Mynediad i Arian Cyhoeddus)
  • Credyd Cynhwysol ar yr amod bod gan yr aelwyd incwm a enillir net blynyddol o ddim mwy na £7,400

Gwneud cais

Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor gan Gyngor Gwynedd, ni fydd raid i chwi gwblhau ffurflen gais am grantiau, byddwn yn asesu eich hawl yn awtomatig. Os nad ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor gan Gyngor Gwynedd, ac o’r farn fod gan eich teulu hawl i gael grant, gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais isod.

Ffurflen Gais - Grant Hanfodion Ysgol (yn agor mewn tab newydd)

Cwestiynau a ofynnir yn aml


Cysylltu â ni