Mae rhai o ysgolion cynradd y sir yn cynnal clybiau brecwast. Cysylltwch â'ch ysgol i gael gwybod mwy am eich ysgol chi.
Rhaid talu £1 y plentyn am yr elfen gofal plant cyn y clwb brecwast. Mae disgownt ar gyfer teuluoedd o 3 neu fwy o blant cynradd sy’n defnyddio’r clwb gofal cyn-ysgol. £2 y dydd yw'r mwyafrif bydd rhiant yn ei dalu.
Rhaid archebu lle yn y clwb trwy eich cyfrif Cyngor Gwynedd ar-lein.
Mae cinio ysgol ar gael am ddim i bob plentyn ysgol gynradd.
Os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau cymhwyso, dylech dal i gofrestru ar gyfer cinio ysgol am ddim oherwydd efallai y bydd gennych hawl i grantiau fel gwisg ysgol a chitiau Addysg Gorfforol. Mwy o wybodaeth
Beth sydd yna i ginio?
| Dydd Llun | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | Dydd Iau | Dydd Gwener | |
|---|---|---|---|---|---|
| Wythnos 1 | (LL) Pitsa caws a thomato (LL) Pasta Tomato a Pherlysiau Tatws wedge, Coleslaw, Ffyn llysiau Myffin ffrwyth, Hanner banana neu ffrwyth | (GF) Peli cig porc (LL) Selsig llysieuol Grefi, Tatws hufen neu basta, Brocoli a chorn melys Crymbl ceirch afal ac eirin gwlanog,Cwstard neu ffrwyth | Twrci Rhost (LL) Ffiled Quorn Stwffin a grefi, Moron a rwdan, Tatws rhost/hufen Crispie siocled, Darn o oren/ffrwyth, Llefrith | Korma cyw iâr (LL) Korma llysieuol Reis a bara naan, Pys a chorn melys Iogwrt, darn o ffrwyth | Bysedd pysgod (LL) Bysedd di-bysgod Ffa pob Salad Sglodion Fflapjac ffrwythau, darn o ffrwyth |
| Wythnos 2 | Selsig (LL) Selsig llysieuol Tatws wedge, Ffa pob, Salad Iogwrt, Darnau o ffrwyth | Pasta cyw iâr pobi (LL) Pasta tomato pobi llysieuol Salad a phys, Betys, Bara garlleg Bisged ceirch, Darnau o ffrwyth, Llefrith | Cig eidion neu oen rhost (LL) Ffiled Quorn Pwdin Efrog, Grefi, Tatws rhost neu wedi'u berwi, Moron a phys Rôl arctig ac eirin gwlanog neu ffrwyth | Pastai Porc a Stwffin (LL) Mac a chaws Bresych a brocoli, Tatws hufen, Grefi Pwdin reis gydag aeron cymysg, Ffrwyth | (GF) Ffiled Eog 'bubblecrumb' neu seren bysgod (LL) Bysedd di-bysgod Pys a salad, Sglodion Iogwrt ffrwythau a darnau afal neu ffrwyth |
| Wythnos 3 | Goujons cyw iâr (LL) Nygets llysieuol Tatws wedge, Ffa pob a salad Sbwng siocled a gellyg, Cwstard siocled neu ffrwyth | Lasagne neu bolognese cig eidion (LL) Bolognese Soia Pasta, Pys a chorn melys, Bara garlleg Jeli ffrwythau a hufen iâ, neu ffrwyth | Porc rhost a saws afal (LL) Ffiled Quorn Tatws rhost neu hufen Moron a brocoli, Grefi Caws a chracyrs gyda darnau afal neu ffrwyth, Llefrith | Tikka cyw iâr (LL) Tikka llysieuol / caserol Reis a bara naan, Corn melys a ffyn llysiau Iogwrt a rhesins neu ffrwyth | (GF) Peli pysgod neu ffiled eog mewn briwsion bara (LL) Omled caws Pys a salad Sglodion Myffin ffrwyth neu ffrwyth |
Mae diod o ddŵr ar gael i bawb amser cinio. Mae ffrwythau ffres ar gael bob dydd fel dewis yn lle pwdin. Dylai bara (heb fenyn na margarin) fod ar gael drwy gydol amser cinio. Bydd tatws heb olew yn cael eu cynnig fel dewis yn lle sglodion a thatws rhost. Rydym yn paratoi’r bwyd o’r cynhwysion craidd ac nid ydym yn defnyddio bwydydd y gwyddys eu bod yn cynnwys cynhwysion a addaswyd yn enetig.
Mae holl ysgolion uwchradd y sir yn cynnig amrywiaeth o fwydydd ffres oer a phoeth pob dydd. Bydd y pris yn amrywio - cysylltwch â'r ysgol am fwy o wybodaeth.
Mae traean o beint o lefrith yn cael ei roi am ddim bob dydd i:
- ddisgyblion o dan 5 oed
- disgyblion Cyfnod Allweddol 1 (Menter Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
- ddisgyblion ysgolion arbennig
- unrhyw ddisgybl mewn ysgol gynradd sydd angen llefrith ar sail meddygol pan fo tystysgrif wedi’i chyflwyno gan y Swyddog Meddygol Ysgolion.
- Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn gallu prynu traean o beint o lefrith am 10c.
Mae cwpan, plât a dŵr yn cael eu darparu ar gyfer plant sy'n dewis dod â'u bwyd eu hunain.
Mae holl ysgolion Gwynedd yn rhan o’r cynllun ysgolion iach. Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Ysgolion Iach Gwynedd (yn agor mewn tab newydd).