Prosiect Gwarchod Enwau Lleoedd
Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Iaith yn 2018, oedd yn cyflwyno darlun o’r hyn yr oedd gwahanol swyddogion ac adrannau o fewn y Cyngor yn gyfrifol amdano yng nghyd-destun enwi, yn amlygu’r angen i gysoni safiad a gweithrediad y Cyngor yn y maes hwn, ac hefyd yn amlygu cyfleoedd i hybu defnydd o enwau cynhenid Cymraeg, a thrwy hynny godi statws y Gymraeg, gyda phartneriaid allanol. Amlygwyd yr angen i:
- Cysoni’r modd y mae’r Cyngor yn gweithredu wrth arddel enwau Cymraeg
- Sicrhau mai fersiynau Cymraeg enwau lleoedd sydd yn cael y flaenoriaeth gyda phartneriaid allanol
- Ceisio cymryd camau rhagweithiol i ddiogelu ac atal mwy o newidiadau i enwau cynhenid
Gobeithir, o ganlyniad i’r prosiect:
- Y bydd trefniadau clir o fewn y Cyngor ar gyfer defnyddio ein dylanwad i ddiogelu a rhoi statws i enwau cynhenid Cymraeg.
- Y byddwn wedi sefydlu polisi neu weithdrefn fydd yn sicrhau bod unrhyw swyddogion o fewn y Cyngor yn deall cwmpas eu dylanwad a’r camau y mae disgwyl iddynt ei cymryd i ddiogelu enwau cynhenid Cymreig.
- Y bydd llai o enwau cynhenid yn cael eu newid i’r Saesneg ac y bydd partneriaid allanol yn cefnogi defnydd o’r enwau Cymraeg, gwreiddiol, yn hytrach nag enwau “newydd” sydd wedi eu gosod yn fwy diweddar
- Y bydd statws enwau Cymreig yn cael ei godi, ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr enwau hynny yn cynyddu ymysg trigolion ac ymwelwyr i’r sir.
At ei gilydd felly mae’r prosiect yn dilyn dau gyfeiriad.
- Edrych ar sut mae enwau tai yn cael eu newid, sut mae mapiau a rhestrau enwau’n cael eu diweddaru yn swyddogol a pha hawliau statudol o dan y deddfau presennol sydd gan y cyngor i ddylanwadu ar hynny. Y nod yw ceisio sicrhau bod polisïau cadarn ar waith i atal enwau cynhenid rhag cael eu newid ac yn sgil hynny, eu colli am byth.
- Hybu ac annog y cyhoedd yn gyffredinol am bwysigrwydd enwau lleoedd a’r hanes a threftadaeth diwylliannol sydd yn perthyn iddynt. Drwy weithio gyda mudiadau, ysgolion, a drwy bostio deunydd difyr ar wefannau cymdeithasol y nod yw ennyn parch mewn enwau lleoedd. Y mwya’n byd o barch fydd yn cael ei greu, y lleiaf tebygol y bydd pobl o ddileu hen enwau Cymraeg.
Map enwau lleoedd
Mae Map Enwau Lleol wedi cael ei greu er mwyn bod yn gofnod byw o enwau lleol a llafar ar leoliadau a nodweddion o fewn cymunedau’r sir.
Bydd posib i grwpiau cymunedol neu ysgolion gael mynediad i'r map er mwyn cyfrannu a chofnodi rhai o’r enwau anffurfiol hynny, sydd yn rhan o hanes a thafodiaith leol, ac na wnaiff byth ymddangos ar fap swyddogol.
Meddai Mei Mac, y Swyddog Prosiect Enwau Lleoedd:
"Mae nifer fawr o hen enwau ar strydoedd, ardaloedd, nodweddion daearyddol, pontydd ac yn y blaen nad ydynt ar fapiau swyddogol, ond eto maen nhw’n cael eu defnyddio ar lafar bod dydd o fewn ein cymunedau. Maen nhw’n enwau difyr ac fel unrhyw enw lle yn cynnwys cyfeiriadaeth gyfoethog o hanes a threftadaeth leol."
Mae’r nodwedd ychwanegu gwybodaeth yn hawdd iawn ei ddefnyddio, ac yn cynnwys lle i roi disgrifiad o’r safle, pwt o wybodaeth gefndirol a hyd yn oed cynnwys llun. Bydd y cofnodion wedyn yn ymddangos ar y map, a’r lleoliadau wedi eu marcio gyda dotyn gwahanol liwiau – yn dynodi gwahanol fathau o nodweddion.
Os oes gennych chi ddiddordeb cyfrannu at y map, neu gael fyw o wybodaeth, cysylltwch â'r Uned Iaith ar iaith@gwynedd.llyw.cymru (01286 679629/679469 ).
Gallwn hefyd drefnu gweithdai i ysgolion neu ymweliad i grwpiau er mwyn dangos sut mae’r map yn gweithio a sut y gallwch chi roi gwybodaeth arno.
Gweld map enwau lleoedd Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)
Datganiad diogelu data: Nid yw’r Cyngor yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb y wybodaeth sydd yn cael ei fewnbynnu ar y map. Bydd unrhyw gofnodion yn cael eu gwirio gan swyddogion, ond cyfrifoldeb yr unigolion yw sicrhau nad oes gwybodaeth anghywir/anaddas yn cael ei gynnwys.
Cyfrifoldeb yr unigolion hefyd fydd sicrhau nad ydynt yn torri rheolau hawlfraint wrth rannu lluniau ar y map.
Mae’r map ar gyfnod profi ar hyn o bryd, felly os oes gennych chi unrhyw adborth neu os ydych chi’n cael unrhyw drafferthion, cysylltwch efo ni, os gwelwch yn dda, ar iaith@gwynedd.llyw.cymru