Cefnogaeth i fusnesau (Gwaith Gwynedd)

Mae Gwaith Gwynedd yn cynnig cefnogaeth 1 i 1 i unigolion gyda Mentoriaid , er mwyn ehangu eu datblygiad proffesiynol drwy ffeindio gwaith, datblygu mewn gyrfa a mynediad i hyfforddiant.

Mae Gwaith Gwynedd yn darparu ystod eang o wasanaethau i gyflogwyr yng Ngwynedd er mwyn cyrraedd newidiadau y farchnad lafur leol.

Gwasanaethau medrwn gynnig i’ch busnes yn cynnwys:

  • Gwahoddiad i ffeiriau swyddi a digwyddiadau gyrfa er mwyn hyrwyddo eich swyddi ac rhwydweithio a busnesau eraill
  • Cyd drefnu diwrnod recriwtio ar eich safle, gweithdai sgiliau ac/neu sesiynau recriwtio
  • Cynorthwyo i lenwi bylchau mewn sgiliau ac hyfforddiant
  • Hyrwyddo eich swyddi am ddim gyda’n mentoriaid profiadol ac ar ein hysbysfwrdd swyddi (yn agor mewn tab newydd)
  • Eich cefnogi i fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.

Os ydych chi yn teimlo byddwch yn elwa o gefnogaeth gan Gwaith Gwynedd byddwn yn awyddus i glywed gennych chi. Rydym o hyd yn cefnogi cleientiaid sydd yn barod ac yn awyddus i gychwyn gwaith cyn gynted a phosib.

Cysylltwch gyda Rebecca Williams, ein Cynghorydd Ymgysylltu a Chyflogwyr, ar rebeccawilliams@gwynedd.llyw.cymru neu 07425505750.

Os nad yw’r ddarpariaeth yn addas i chi, medrwn eich cynorthwyo i wneud cysylltiadau hefo darparwyr ac sefydliadau eraill fedr roi cyngor ac arweiniad i’ch busnes chi.

Neu llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu yn nôl â chi:

Gwaith Gwynedd: Cais am alwad ffôn (yn agor mewn tab newydd)