Mae Cyngor Gwynedd wedi’i lunio o 69 o Gynghorwyr sy’n cael eu hethol bob pum mlynedd.
Mae’r 69 o Gynghorwyr (yn agor mewn tab newydd) yn eistedd ar y Cyngor Llawn (yn agor mewn tab newydd) ac mae'r Cyngor yn gweithredu drwy drefn Cabinet (yn agor mewn tab newydd)a Phwyllgorau Craffu.
Cyfansoddiad gwleidyddol presennol y Cyngor yw:
| Plaid | Nifer aelodau |
|---|---|
| Plaid Cymru | 43 |
| Annibynnol | 21 |
| Gwynedd yn Gyntaf | 2 |
| Aelod Unigol | 2 |
| Sedd wag | 1 |
| Cyfanswm | 69 |
Prif elfennau strwythur gwleidyddol y Cyngor:
Y Cyngor Llawn
Mae’r 69 Cynghorydd yn cyfarfod er mwyn cytuno ar bolisïau'r Cyngor, a gosod y gyllideb flynyddol, gwneud newidiadau i’r cyfansoddiad fel sydd angen, ac yn y blaen. Mae'r Cyngor Llawn yn cyfarfod 5 gwaith y flwyddyn. Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd ac yn cael eu gwe-ddarlledu, gan mai lle cyfyngedig yn unig sydd yn yr oriel gyhoeddus.
Rydym hefyd yn croesawu cwestiynau gan y cyhoedd. Mwy o wybodaeth
Y Cabinet
Mae'r Cabinet yn cynnwys 10 Cynghorydd ac yn cael ei gadeirio gan Arweinydd y Cyngor. Mae gan bob un o’r Aelodau bortffolio penodol o gyfrifoldeb am feysydd o fewn gwasanaethau’r Cyngor. Mwy o wybodaeth (yn agor mewn tab newydd)
Cadeirydd y Cyngor
Mae Cyngor Gwynedd yn ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd bob 12 mis yn ei gyfarfod blynyddol. Mae'r Cadeirydd yn llywyddu dros gyfarfodydd y Cyngor ac mae'n cynrychioli Cyngor Gwynedd mewn digwyddiadau dinesig a seremonïol. Mwy o wybodaeth
Pwyllgorau
Gweld calendr pwyllgorau'r Cyngor (yn agor mewn tab newydd)
Mae nifer o wahanol bwyllgorau gan gynnwys y rhai canlynol.
Y Pwyllgor Craffu
Mae 3 Pwyllgor Craffu yng Ngwynedd, sydd i gyd yn cyfarfod o leiaf 5 gwaith y flwyddyn: Mwy o wybodaeth. (yn agor mewn tab newydd)
Y Pwyllgor Rheoleiddio
Mae’r Pwyllgorau Rheoleiddio yn cynnwys: Y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, Y Pwyllgor Cynllunio, a’r Pwyllgor Trwyddedu
Y Pwyllgor Safonau
Rôl y Pwyllgor Safonau yw hyrwyddo, cynnal a gwarchod safonau ymddygiad aelodau o fewn y Cyngor a phriodoldeb yn holl drafodion y Cyngor. Mwy o wybodaeth.
Cysylltu â ni
Os oes gennych ymholiad neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni: