Mae’r Strategaeth yma yn nodi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer lleihau gwastraff, cynyddu ailddefnyddio ac ailgylchu, a symud tuag at economi gylchol fwy cynaliadwy.
Mae'n adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed dros y degawd diwethaf wrth gynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau gwastraff, tra'n ymateb i heriau newydd megis newid hinsawdd, targedau cenedlaethol a phwysau ariannol cynyddol.
Datblygwyd y strategaeth yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ac mae'n darparu fframwaith clir ar gyfer datblygu gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn y cyfnod hyd at 2030.