Pwrpas Cynllun Cydraddoldeb Strategol yw lleihau anghydraddoldeb rhwng pobl sydd â nodweddion cydraddoldeb a pobl sydd ddim yn rhannu’r nodwedd yma. Mae’r nodweddion hyn yn cynnwys:

  • Oedran
  • Ailbennu rhywedd
  • Rhyw
  • Hil – yn cynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd
  • Anabledd
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Cyfeiriadedd Rhywiol
  • Crefydd neu gred – gan gynnwys diffyg cred
  • Priodas a phartneriaeth sifil

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28

Gweld Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28

Os ydych chi angen unrhyw un o'r dogfennau uchod mewn fformat neu iaith arall cysylltwch â cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru