Byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio drwy'r post yn ystod yr wythnosau cyn yr etholiad. Bydd y manylion pleidleisio i gyd ar y cerdyn, gan gynnwys lleoliad eich gorsaf bleidleisio.

Mae’n helpu’r clerc pleidleisio os ewch â'r cerdyn gyda chi i'r orsaf bleidleisio ar y diwrnod ond gallwch bleidleisio hebddo.

Os nad ydych chi wedi derbyn eich cerdyn pleidleisio cyn yr etholiad gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 01766 771000.


Lleoliad eich gorsaf bleidleisio

Bydd lleoliad eich gorsaf bleidleisio wedi ei nodi ar eich cerdyn pleidleisio. Gallwch hefyd ddod o hyd i'r lleoliad drwy roi eich cod post yn y blwch:

Gweld map lleoliad gorsafoedd pleidleisio Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)


Oriau agor

Oriau agor pob gorsaf bleidleisio yn ystod etholiad yw 7am - 10pm


Methu mynd i'r orsaf bleidleisio?

Os na fedrwch chi fynd i'r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad am ba bynnag reswm (gwaeledd, ar eich gwyliau ayyb), mae'n bosib bwrw pleidlais absennol. Mae 2 fath o bleidlais absennol: