Cafodd etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ei chynnal ar 2 Mai, 2024.
Rôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn gwneud yn siŵr bod anghenion plismona eu cymunedau yn cael eu diwallu yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan ddod â chymunedau yn nes at yr heddlu, magu hyder pobl yn y system ac adfer ffydd pobl.
Mae’r Comisiynydd yn rhoi llais i’r cyhoedd ar y lefel uchaf bosib’, ac yn rhoi’r gallu i’r cyhoedd sicrhau bod eu heddlu yn atebol.