Mae'n rhaid i chi fod ar y gofrestr cyn y gallwch chi bleidleisio mewn etholiad neu refferendwm yn y Deyrnas Unedig.
Nid oes rhaid cofrestru bob blwyddyn er mwyn i’ch enw fod ar y gofrestr.
Byddwch yn derbyn cadarnhad o'ch manylion trwy'r post rhwng Awst a Hydref pob blwyddyn a bydd angen i chi ymateb er mwyn aros ar y gofrestr.
Nid yw’r ffaith eich bod yn talu Treth Cyngor yn golygu eich bod ar y gofrestr yn awtomatig.
Os yw eich enw ar y gofrestr nid oes rhaid i chi bleidleisio.
Os nad yw eich enw ar y gofrestr mae’n bosib y byddwch yn cael trafferth wrth wneud cais am wasanaethau ariannol, e.e. agor cyfrif banc, gwneud cais am fenthyciad.
Mwy o wybodaeth
- Ebost: etholiad@gwynedd.llyw.cymru
- Ffôn: 01766 771000
- Post: Etholiadau Cyngor Gwynedd, Pencadlys Cyngor Gwynedd, Stryd Y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH