Penodi Aelod Lleyg: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Mae’r pwyllgor statudol hwn yn rhan allweddol o fframwaith llywodraethu Cyngor Gwynedd. Diben y Pwyllgor yw darparu sicrwydd annibynnol ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd ein fframwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheoli mewnol, asesu perfformiad, ymdrin â chwynion a chywirdeb y dulliau adrodd ariannol a’r prosesau llywodraethu. Mae’n gwneud cyfraniad allweddol tuag at sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithiol yn eu lle.

Mae’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cyfarfod chwech gwaith y flwyddyn ac mae Aelodau Lleyg (Aelodau Annibynnol) yn derbyn tâl ariannol am fynychu yn unol â’r cyfraddau a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (yn agor mewn tab newydd) (adran 9, tudalen 50).

Beth yw Aelod Lleyg?

Mae Aelod Lleyg yn golygu nad yw person:

  1. Yn aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol,
  2. Wedi bod yn aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol ar unrhyw adeg yn y cyfnod o ddeuddeng mis yn gorffen ar ddyddiad y penodiad, nac
  3. Yn briod nac yn bartner sifil i aelod neu swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol.

Yn ogystal â bodloni’r meini prawf hyn, bydd angen i ymgeiswyr addas fod yn anwleidyddol gyda dealltwriaeth ac ymroddiad i’r 7 Egwyddor o Fywyd Cyhoeddus (yn agor mewn tab newydd) (Egwyddorion Nolan) a gallu dangos y rhinweddau a’r priodoleddau canlynol:

  • Diddordeb a gwybodaeth/profiad o reoli materion ariannol, risg a pherfformiad, archwilio, cysyniadau a safonau cyfrifeg, a’r drefn reoleiddio yng Nghymru;
  • Meddwl gwrthrychol ac annibynnol gydag agwedd ddiduedd a’r gallu i fod yn gynnil;
  • Cefnogi egwyddorion llywodraethu da a’u defnyddio'n ymarferol er mwyn cyflawni’r amcanion sefydliadol;
  • Meddwl yn strategol gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog;
  • Gallu deall a phwyso a mesur tystiolaeth a herio gyda pharch.

Nid yw gwybodaeth fanwl am lywodraeth leol yn angenrheidiol, er y disgwylir i ymgeiswyr posibl fod â diddordeb mewn materion yn ymwneud â bywyd a gwasanaethau cyhoeddus.

Gweld gwybodaeth bellach am y rôl (yn agor mewn tab newydd)


Gwneud cais

Os oes gennych ddiddordeb neu brofiad ym maes llywodraethu, archwilio, rheoli perfformiad neu reoli risg ac yn awyddus i helpu Cyngor Gwynedd i sicrhau ei fod yn cael ei lywodraethu'n effeithiol, gallwch wneud cais ar-lein – nid ydym yn derbyn CVs. I lenwi’r ffurflen ar-lein bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch.

Dyddiad cau: 21 Awst 2026

Ffurflen gais ar-lein (yn agor mewn tab newydd)

Ar ôl gwneud cais i fod yn Aelod Lleyg

Byddwn yn ystyried pob cais a dderbyniwn ac yn cysylltu ag ymgeiswyr mor fuan â phosib.