Mae deisebu yn un ffordd y gall unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, drwy godi materion sy'n peri pryder i'r cyhoedd gyda'r Cyngor a chaniatáu i Aelodau Etholedig ystyried yr angen am newid.

Gall deisebau gael canlyniadau cadarnhaol sy'n arwain at newid neu'n llywio trafodaeth.

Cyn ystyried a ddylid codi deiseb a’i peidio, awgrymir i chi drafod y mater gyda'ch Cynghorydd Lleol a allai eich cynorthwyo gyda'r mater neu egluro sut i gyflwyno sylwadau ar bwnc penodol i'r person cywir o fewn y Cyngor. Dod o hyd i fanylion cyswllt eich Cynghorydd Lleol

Cyflwyno Deiseb

Rhaid i ddeisebau papur neu electronig, sydd i'w hystyried gan y Cyngor gael eu cyflwyno i:

Lawrlwytho Cynllun Deisebau Cyngor Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)

Lawrlwytho Atodiad A - enghraifft o ddeiseb (yn agor mewn tab newydd)