1. DATGANIAD O BOLISI
1.1 Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o safon uchel i bobl Gwynedd ac mae’n ddibynnol ar safon y staff a’r rheolwyr trwy’r awdurdod i wneud hyn. Yn achos camymarfer neu drosedd ddifrifol, mae’n hollbwysig dwyn y gweithgareddau hyn i’r golwg a’u datrys cyn gynted â phosibl er mwyn gwarchod safonau uchel y Cyngor a chynnal hyder y cyhoedd. Mae’r Cyngor felly yn hyrwyddo’r safonau uchaf posibl o ran bod yn agored, yn onest ac yn atebol.
1.2 Lluniwyd y Polisi Datgelu i agor ffordd ddiogel a dibynadwy i weithwyr sôn yn ddidwyll am bryderon, heb ofni y bydd rhywun yn dial arnynt, yn gwahaniaethu yn eu herbyn neu yn creu anfantais iddynt yn sgil hynny. Ni fydd Cyngor Gwynedd yn goddef aflonyddu neu erlid unigolyn sy’n sôn yn ddidwyll am bryder.
1.3 Mae’r polisi yn annog gweithwyr i weithredu’n gyfrifol er mwyn gwarchod enw da y Cyngor a chynnal hyder y cyhoedd. Disgwylir i unigolion ddod ymlaen a sôn am bryderon difrifol sydd ganddynt ynghylch camymarfer.
1.4 Bwriad y polisi yw annog a galluogi gweithwyr i rannu pryderon difrifol o fewn y Cyngor yn hytrach na dewis ceisio datrys pethau yn allanol.
1.5 Bydd Cyngor Gwynedd yn ymateb yn gyflym ac yn drwyadl i bryderon y sonnir amdanynt dan y polisi hwn, ac yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol a phositif i sicrhau nad yw camymarfer yn cael parhau.
1.6 Mae’r polisi hwn wedi’i ddatblygu ynghyd â’r daflen sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor i weithwyr, yn ogystal â’r canllawiau i reolwyr ar sut i ymateb i bryderon y sonnir amdanynt. Gellir cael copïau o’r dogfennau hyn oddi wrth y Gwasanaeth Adnoddau Dynol.
2. I BWY Y MAE’R POLISI’N BERTHNASOL
2.1 Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl staff y cyngor a chontractwyr sy’n gwneud gwaith i’r Cyngor ar eiddo’r Cyngor, megis gweithwyr asiantaeth neu adeiladwyr; cyflenwyr a’r rheini sy’n darparu gwasanaethau dan gontract gyda’r Cyngor ar eu heiddo eu hunain, megis cartrefi gofal.
3. AMCANION
3.1 Mae’r polisi yn ceisio:
• annog gweithwyr sy’n bryderus ynghylch camymarfer i deimlo’n ddigon hyderus i ddod ymlaen a rhannu eu pryderon
• sicrhau bod gweithwyr yn deall beth yw eu cyfrifoldeb o ran sôn am gamymarfer
• creu ffyrdd dibynadwy iddynt sôn am bryderon a chael gwybod yn llawn beth ddigwyddodd wedyn
• sicrhau bod gweithwyr sy’n rhannu pryder yn cael gwybod beth oedd canlyniad y mater, a hefyd eu bod yn gwybod sut i fynd â’r mater ymhellach os nad ydynt yn fodlon gydag ymateb y Cyngor
• rhoi sicrwydd y bydd gweithwyr sy’n sôn yn ddidwyll am bryder sydd ganddynt yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw ddial neu erlid posibl.
3.2 Er mwyn gwneud hyn bydd y Cyngor yn:
• Hyrwyddo’r polisi hwn a’r canllawiau perthnasol ar gyfer gweithwyr a rheolwyr mor eang â phosibl i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’i fodolaeth, ei sgôp a’i amcanion
• Cynnwys y Polisi Datgelu fel rhan hanfodol o’r broses gyflwyno i weithwyr newydd
• Hyrwyddo’r egwyddorion o fod yn agored ac yn atebol yn y man gwaith
• Rhoi hyfforddiant i reolwyr llinell ar sut i ymdrin â phryderon a rennir dan y polisi hwn, cefnogi pobl sy’n ymwneud ag achosion o ddatgelu a Deddf Dadlennu Buddiant Cyhoeddus 1998 a chefndir cyfreithiol ‘datgelu’.
• Sicrhau bod pob cwyn yn cael ei thrin yn ddifrifol a sensitif a’i bod yn cael ei hymchwilio’n drwyadl
• Cymryd camau i amddiffyn unigolion sy’n rhannu pryderon dan y polisi hwn rhag unrhyw ddial neu erlid
• Ceisio datrys y mater yn y lle cyntaf o fewn y Cyngor.
4. SGÔP
4.1 Ar gyfer pryderon yn ymwneud â sefyllfaoedd lle mae budd eraill neu fudd y Cyngor ei hun mewn perygl y bwriedir y polisi yn bennaf. Ni ellir defnyddio’r polisi hwn ar gyfer datrys cwynion unigolion neu i herio penderfyniadau, arferion neu bolisïau y gall unigolion fod yn anghytuno â hwy. Dylid ystyried y Polisi Datgelu, felly, fel peth cwbl ar wahân i’r Drefn Gwyno, y Drefn Ddisgyblu neu’r gweithdrefnau eraill sy’n galluogi gweithiwr i wneud cwyn yng nghyswllt ei gyflogaeth ef ei hun.
4.2 Gall cwynion hollol gyfiawn fod ynghylch rhywbeth:
• sydd yn anghyfreithlon, yn dwyllodrus neu yn llygredig;
• sydd yn gyfystyr â chamweinyddu fel a ddiffinnir gan yr Ombwdsman Llywodraeth Leol; • sydd yn groes i, neu sydd heb fod yn unol â Rheolau Sefydlog y Cyngor, ei Reoliadau Ariannol neu’i bolisïau, ei godau ymarfer neu ei ymrwymiadau cyfreithiol;
• nad yw’n cyrraedd y safonau ymarfer sefydledig;
• sydd yn torri unrhyw gôd ymarfer statudol;
• sydd yn gyfystyr ag ymddygiad amhriodol;
• sydd yn gyfystyr â cham-drin clientiaid yn rhywiol, yn gorfforol neu yn emosiynol;
• sydd yn peryglu iechyd a diogelwch unigolyn; • sydd yn achosi, neu sy’n debygol o achosi, niwed i’r amgylchedd;
• sydd yn aflwyddiant cyfiawnder;
• sydd yn gamddefnydd o rym neu rym ac awdurdod y Cyngor ar gyfer rhyw ddiben anawdurdodedig;
• sydd yn methu ag unioni neu gymryd camau rhesymol i adrodd am fater sy’n debygol o olygu cost fawr y gellid ei hosgoi neu golli canlyniad i’r Cyngor neu a fyddai fel arall yn peryglu’r Cyngor neu
• sydd yn ymgais i guddio unrhyw rai o’r enghreifftiau uchod.
Nid yw’r rhestr yn derfynol; ei bwriad yw rhoi syniad o’r math o ymddygiad y gellid ei ystyried yn drosedd neu yn gamymarfer.
5. Y DREFN DDATGELU
5.1 Rhannu pryder
5.1.1 Dylai gweithiwr sy’n dymuno rhannu pryder dan y polisi hwn fynd yn y lle cyntaf at ei reolwr llinell. Lle nad yw hyn yn briodol, er enghraifft yn achos gweithwyr asiantaeth, cyflenwyr neu gontractwyr, dylid mynd at reolwr neu bennaeth gwasanaeth yr uned neu’r gwasanaeth perthnasol. Ond mae hyn yn dibynnu ar ba mor ddifrifol neu sensitif yw’r materion dan sylw a phwy sy’n cael ei amau o gamymarfer. Mae’n bosibl, felly, y byddai’n fwy priodol adrodd wrth y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Adnoddau, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, y Cyfarwyddwr Datblygu neu’r Cyfarwyddwr Gofal.
5.1.2 Gellir rhannu pryderon yn ysgrifenedig neu ar lafar. Os yw’n cael ei wneud ar lafar, bydd y swyddog gweithredol (sef y swyddog yr aed ato i sôn am y pryder) yn gyfrifol am wneud cofnod o’r manylion.
5.1.3 Er na fydd disgwyl i weithiwr sy’n rhannu pryder ddarparu tystiolaeth i ddangos bod yr honiad yn wir, fe fydd disgwyl iddo ddangos i’r swyddog gweithredol fod digon o sail i’r honiad.
5.1.4 Mae rhwydd hynt i weithiwr ofyn am gyngor cyfrinachol gan Undeb Llafur ar sut i rannu pryder dan y polisi hwn, a gall wahodd cynrychiolydd godi’r mater ar ei ran. 5.2 Sut y bydd y Cyngor yn Ymateb
5.2.1 Bydd y swyddog gweithredol yn ysgrifennu at y gweithiwr a rannodd y pryder cyn pen 10 diwrnod gwaith.
5.2.2 Mae’r ffordd y bydd y Cyngor yn gweithredu yn dibynnu ar natur y pryder. Lle bo hynny’n briodol, gall y materion a godir:
a) gael eu hymchwilio’n fewnol gan reolwyr, archwilwyr mewnol neu trwy bolisi neu weithdrefn arall sydd gan y Cyngor, megis y Drefn Gwyno neu’r Drefn Ddisgyblu
b) gael eu cyfeirio at yr heddlu
c) gael eu cyfeirio at yr archwiliwr allanol
ch) fynd i ymchwiliad annibynnol
5.2.3 Er mwyn amddiffyn unigolion a’r rheini sy’n cael eu cyhuddo o gamweddau neu gamymarfer posibl, gwneir ymholiadau i gychwyn i benderfynu a yw’n briodol cynnal ymchwiliad, ac os felly, sut ymchwiliad.
5.2.4 Gellir datrys rhai pryderon trwy gytuno ar ba gamau i’w cymryd heb fod angen cynnal ymchwiliad. Os oes angen cymryd camau brys, gwneir hynny cyn cynnal unrhyw ymchwiliad.
5.2.5 Pan fydd cyfarfod yn cael ei drefnu, bydd gan y gweithiwr sy’n codi’r pryder hawl i ddod â chynrychiolydd undeb gydag ef, neu gydweithiwr nad yw’n gysylltiedig â’r maes gwaith y mae a wnelo’r pryder ag ef.
5.2.6 Yn amodol ar gyfyngiadau’r gyfraith, bydd gweithiwr sy’n sôn am bryder yn cael gwybod beth fydd canlyniad unrhyw ymchwiliad.
6. RHWYSTRO DIAL, ERLID NEU AFLONYDDU
6.1 Mae gweithwyr sy’n rhannu pryderon yn ddidwyll ynghylch achosion o gamymarfer wedi’u hamddiffyn rhag erlid a chael eu diswyddo dan Ddeddf Dadlennu Buddiant Cyhoeddus 1998. Ni fydd y Cyngor yn goddef unrhyw ymgais ar ran gweithiwr, cynghorydd, contractwr na chyflenwr i gosbi neu greu anfantais i unigolyn sydd wedi rhannu pryder yn ddidwyll dan y polisi hwn. Bydd ymgais o’r fath yn cael ei thrin fel trosedd ddisgyblu ddifrifol.
7. CYFRINACHEDD
7.1 Mae’r Cyngor yn annog pob gweithiwr sy’n rhannu pryder dan y polisi hwn i roi’i enw wrth y g ŵyn gan fod honiadau dienw yn llawer gwannach ac yn gallu rhwystro canlyniad unrhyw ymchwiliad.
7.2 Bydd pob pryder a rennir dan y polisi hwn yn cael ei drin yn gyfrinachol a, lle bo gweithiwr yn dymuno aros yn ddienw, ni ddatgelir ei enw heb ei ganiatâd.
7.3 Os cyfyd sefyllfa lle nad yw’n bosibl datrys y mater heb ddatgelu enw’r gweithiwr a rannodd y pryder, er enghraifft os bydd angen iddo roi tystiolaeth mewn llys, bydd y swyddogion priodol yn trafod gyda’r gweithiwr pa un a ddylid mynd ymlaen â’r achos ai peidio a sut y gellid gwneud hynny.
8. HONIADAU FFUG A MALEISUS
8.1 Os bydd gweithiwr yn rhannu pryder yn hollol ddidwyll ond nad yw’r ymchwiliad yn ei gadarnhau, ni fydd camau yn cael eu cymryd yn ei erbyn. Ond os bydd gweithiwr yn fwriadol yn gwneud honiadau ffug neu faleisus dan y polisi hwn, bydd yn cael ei drin fel trosedd ddisgyblu ddifrifol.
9. SUT Y GELLIR MYND Â’R MATER YMHELLACH
9.1 Bwriad y polisi hwn yw agor ffordd i ymdrin â phryderon a rennir yng nghyswllt amymarfer neu gamweddau difrifol a’u datrys yn llwyddiannus. Gobeithir felly y bydd gweithwyr sy’n rhannu pryder yn gwbl fodlon gydag unrhyw gamau a gymerir. Ond os nad yw gweithiwr yn fodlon am ryw reswm neu’i gilydd, gall fynd â’r mater ymhellach trwy gysylltu eto â’r swyddog gweithredol i gwestiynu’r camau a gymerwyd i ymdrin â’r gŵyn.
9.2 Os yw’r gweithiwr a rannodd y pryder yn dal i fod yn anfodlon, gall ddatgelu’r mater y tu allan i’r Cyngor os yw’n dymuno.
10. DATGELU ALLANOL
10.1 Disgwylir i unrhyw bryderon gael eu rhannu o fewn y Cyngor yn y lle cyntaf. Ond gall fod achosion lle nad yw gweithiwr yn teimlo y gall drafod y mater yn fewnol neu lle nad yw’n teimlo ei bod yn briodol gwneud hynny. Mewn achosion o’r fath, ar yr amod fod y gweithiwr yn gweithredu’n ddidwyll a’i fod yn gallu dangos bod sail resymol a digonol dros ei bryderon, gall godi’r mater yn allanol trwy gysylltu â’r cyrff isod:
• Public Concern at Work
• Yr Archwiliwr Dosbarth
• Ombwdsman Llywodraeth Leol
• ei Undeb Llafur
• cyrff proffesiynol neu fudiadau rheolaethol perthnasol
• yr Heddlu
10.2 Dylai gweithiwr sy’n penderfynu codi pryder yn allanol sicrhau nad yw’n datgelu gwybodaeth gyfrinachol i rywun sydd heb hawl iddi.
11. Y SWYDDOG SY’N GYFRIFOL
11.1 Gan y Prif Weithredwr y mae’r cyfrifoldeb cyffredinol dros gynnal a gweithredu’r polisi hwn. Bydd yn cadw cofnod o’r pryderon a godir a’r canlyniadau mewn ffurf nad yw’n peryglu cyfrinachedd, a bydd yn adrodd fel bo angen i’r Cyngor.
Deddfwriaeth Berthnasol
Mae’r polisi hwn wedi’i ddatblygu yn unol â Deddf Dadlennu Buddiant Cyhoeddus 1998 sy’n amddiffyn rhag diswyddo neu greu anfantais i weithiwr sy’n datgelu gwybodaeth er budd y cyhoedd i’r personau priodol dan yr amgylchiadau priodol ar yr amod bod hynny’n cael ei wneud yn ddidwyll.