Cais Rhan 13A
Cais am Gymorth dan Rhan 13A o Ddeddf Cyllid Lywodraeth Leol 1992 - Local Government Finance Act 1992 (nodwch fod y dudalen yma ar gael yn Saesneg yn unig)
Mae Adran 13A(1)(c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn rhoi pwerau disgresiwn i'r Cyngor leihau swm y Dreth Gyngor sy'n daladwy ar gyfer unigolion, neu ar gyfer dosbarthiadau o drethdalwyr.
Cyflwynwyd yr adroddiad yn yr Atodiad i’r Cabinet ar 11 Tachwedd 2025. Cymeradwywyd y Polisi fel y’i cyflwynwyd, ac yn unol â gweithdrefnau’r Cyngor daeth yn weithredol ar 26 Tachwedd 2025.
- Polisi Lleihau Treth Cyngor (yn agor mewn tab newydd)pdf file[539KB]
Sut i gyflwyno cais Rhan 13A
Dan y Polisi mae rhaid cyflwyno ceisiadau yn ysgrifenedig, dylid gyrru e-bost yn nodi mae Cais dan Rhan 13A sydd yn cael ei gyflwyno.
Gosodir trefn sut i wneud cais yn y Polisi, hefyd beth yr drefn ac amserlen prosesu.
Apêl Swyddogol yn erbyn penderfyniad Y Cyngor
Os yw eich cais yn erbyn cyfrifoldeb am Dreth Cyngor neu gais am ddisgownt, diystyriaeth neu eithriad wedi ei wrthod, cofiwch fod hawl gennych i apelio:
- yn gyntaf i'r Cyngor
- a dim ond os y gwrthodir eich apêl yna wedyn i'r Tribiwnlys Prisio. (yn agor mewn tab newydd)
Fydd y Cyngor yn rhoi datganiad clir yn gwrthod eich cais.
Darperir manylion y Tribiwnlys i chi wrth ohebu â chi os y gwrthodir eich apêl.