Wrth i ni baratoi ar gyfer y gaeaf a'r Nadolig, rydym eisiau cael darlun o'r apelion anrhegion Nadolig sy'n digwydd yn ein cymunedau.
Os ydych chi’n sefydliad, grŵp cymunedol, elusen neu wasanaeth sy'n trefnu apêl anrhegion y gaeaf hwn, hoffem glywed gennych chi.
Rhowch wybod i ni am eich apêl drwy lenwi’r ffurflen isod:
Ffurflen ar-lein: Apêl Anrhegion Nadolig (yn agor mewn tab newydd)Gofynnwn i chi lenwi'r ffurflen erbyn dydd Gwener 13 Tachwedd 2026.
Trwy rannu eich manylion, gallwn helpu i ddeall pa gymorth sydd ar gael ar draws Wynedd a helpu i gysylltu pobl â'r gefnogaeth gywir.
Diolch am eich cefnogaeth.