Dyddiad cau: 22 Mai, 2026
Byddwn yn anelu i asesu a chymeradwyo ceisiadau o fewn 6 wythnos i’r dyddiad cau.

Mae Gronfa’r Degwm yn deillio o Ddeddf Eglwysi Cymru 1914 (o dan Ddeddfau’r Degwm 1914 – 1945 a Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1993). Mae Cyngor Gwynedd yn gweinyddu’r gronfa ac yn dosbarthu llog o’r gronfa ar ffurf grantiau yn flynyddol i elusennau cofrestredig yng Ngwynedd.

Beth ydi pwrpas y gronfa?

Pwrpas Cronfa’r Degwm yw hyrwyddo a chefnogi gweithgareddau gan sefydliadau elusennol sydd o fudd i drigolion Gwynedd, ac yn cyfoethogi cymunedau Gwynedd.

Y bwriad yw galluogi’r sector wirfoddol i chwarae rôl gyflawn yng nghymunedau Gwynedd drwy adlewyrchu un neu ragor o’r amcanion canlynol:

(i) Hybu gwybodaeth a gwerthfawrogiad o gelfyddydau a llenyddiaeth Cymru

(ii) Darparu neu gynorthwyo i ddarparu cyfleusterau ar gyfer adloniant neu weithgarwch amser hamdden arall;

(iii) Hybu diddordeb pensaernïol, hanesyddol neu wyddonol sy’n ymwneud a Chymru

Pwy all geisio am y grant?

Gall elusennau cofrestredig geisio am y grant hwn o Gronfa Degwm Cyngor Gwynedd, gan gynnwys:

  • eisteddfodau lleol
  • gweithgareddau celfyddydol
  • mudiadau addysg
  • mudiadau hamdden a chwaraeon
  • mudiadau cadwriaethol
  • elusennau sy’n cefnogi pobl wael neu bob anabl

Faint o arian sydd ar gael?

Croesawir ceisiadau hyd at £5,000.00.

Lle rhoddir grant, ni fydd y gronfa yn ystyried ceisiadau am gymorth gan yr un corff am gyfnod o 3 mlynedd o ddyddiad y cais blaenorol.

Canllawiau


Gwneud cais

Mae'r gronfa hon ar gau.

Dyddiad cau: Mai 22, 2026.
Dylid sicrhau bod y ffurflen gais wedi ei chwblhau a bod yr holl ddogfennau cefnogol a thechnegol angenrheidiol wedi eu derbyn erbyn y dyddiad yma.
Byddwn yn anelu i asesu a chymeradwyo ceisiadau o fewn 6 wythnos i’r dyddiad cau.


Cysylltu â ni

Mae Swyddogion Cefnogi Cymunedau Cyngor Gwynedd ar gael i gynnig arweiniad i chi. Awgrymir yn gryf y dylid cysylltu gyda Swyddog i drafod y cynllun cyn ymgeisio.

Gellir cysylltu a’r Swyddogion drwy e-bostio; Cefnogicymunedau@gwynedd.llyw.cymru