Mae Cyngor Gwynedd ar rhan Llywodraeth Cymru yn gwahodd grwpiau cymunedol, cymdeithasau rhandiroedd a sefydliadau lleol i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb ar gyfer y Gronfa Cefnogi Rhandiroedd 2026/27.
Nod y gronfa hon yw cryfhau tyfu bwyd lleol, gwella lles cymunedol ac ehangu mannau gwyrdd ledled y sir.
Rhaid i’r prosiect fod wedi ei gwblhau erbyn 19 Chwefror 2027.
I ba fath o brosiectau mae'r grant?
Rydym yn gwahodd ceisiadau am arian grant tuag at gynlluniau rhandiroedd sy’n cyflawni’r blaenoriaeth o;
- greu rhandir(oedd) newydd
neu
- Dod â hen randir(oedd) yn ôl i ddefnydd
Bydd hefyd bosibl gwneud cais am arian tuag at un neu fwy o’r canlynol:
- Gwella mynediad i randiroedd
- Gwella cyfleusterau a gwasanaethau ar randiroedd
- Gwella diogelwch safle randiroedd
- Gwella ailgylchu ar randiroedd
- Gwella bio-amrywiaeth ar randiroedd
- Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o randiroedd.
Gall eitemau gwariant cymwys gynnwys y canlynol (ond nid yw hwn yn rhestr cynhwysfawr):
- Gwaith adeiladu a paratoi tir
- Offer mawr megis siediau, tŷ gwydr, polytunnels, storfeydd, casglwr dŵr
- Deunyddiau adeiladu / ffensys / giatiau / arwyddion
Faint o arian sydd ar gael?
Does dim uchafswm grant ond byddwn yn cymryd i ystyriaeth blaenoriaethau’r gronfa wrth ddethol y prosiectau ac elfennau llwyddiannus
Pwy all wneud cais?
Gwahoddir geisiadau gan grwpiau cymunedol, elusennau, cynghorau cymuned a thref, a mudiadau gwirfoddol.
Gwneud cais
- Llenwi'r Ffurflen Mynedgiant Diddordeb (yn agor mewn tab newydd) / Fersiwn Word (yn agor mewn tab newydd)
- Gyrru'r ffurflen ynghyd a'r dogfennaeth angenrheidiol i Cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymru
Dyddiad cau: 20 Mawrth 2026
Mi fydd yn rhaid i’r prosiect fod wedi ei gwblhau erbyn 19 Chwefror 19, 2027
Cysylltu â ni
Mae Swyddogion Cefnogi Cymunedau Cyngor Gwynedd ar gael i gynnig arweiniad i chi:
- E-bost: Cefnogicymunedau@gwynedd.llyw.cymru
- Ffôn: 01286 679870