Cronfa Croeso Cynnes a Chymorth Gwynedd

Mae'r Gronfa Croeso Cynnes a Chymorth Gwynedd yn cael ei ariannu drwy becyn cyllido Cymorth mynd i'r afael a Thlodi Llywodraeth Cymru 2026/2027.

Grantiau rhwng £250 a £2,000

Mae'r gronfa yma yn agored.
Dyddiad cau: 13 Tachwedd, 2026.

Mae Croeso Cynnes a Chymorth Gwynedd yn cefnogi gweithgareddau lleol sy’n rhoi cyfle i bobl ddod at ei gilydd mewn lle cynnes, diogel, croesawgar a chynhwysol.

Mae grwpiau a gweithgareddau cymunedol lleol - mewn neuaddau pentref, canolfannau cymunedol, mannau ffydd, llyfrgelloedd, clybiau a lleoliadau lleol eraill - yn rhan bwysig iawn o fywyd cymunedol Gwynedd.

Maent yn helpu i:

  • leihau unigrwydd ac unigedd;
  • creu cysylltiadau cymdeithasol;
  • wella lles;
  • rhoi cyfle i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau;
  • adeiladu rhwydweithiau cymunedol; a
  • rhoi cyfle i bobl gefnogi ei gilydd.

Rydym am ddiogelu a chryfhau’r gweithgareddau lleol hyn - nid eu troi’n wasanaethau ffurfiol.

Ar yr un pryd, mae’r gweithgareddau hyn yn creu cyfle gwerthfawr i sicrhau bod gwybodaeth a chymorth ymarferol yn cyrraedd pobl yn y mannau lle maent eisoes yn cyfarfod.

Drwy Croeso Cynnes a Chymorth Gwynedd, rydym felly am gryfhau’r cysylltiad rhwng gweithgareddau cymunedol lleol a’r rhwydwaith ehangach o wybodaeth, gwasanaethau a chymorth sydd ar gael yng Ngwynedd.

Mwy na lle cynnes

Nid darparu lle cynnes yn unig yw diben Croeso Cynnes a Chymorth Gwynedd. Rydym am gefnogi gweithgareddau sy’n rhoi rheswm i bobl ddod at ei gilydd ac sy’n cyfrannu at les a chysylltiadau cymdeithasol.

Gallai hyn gynnwys:

  • boreau coffi;
  • clybiau cinio neu swper;
  • sesiynau galw heibio;
  • grwpiau cymdeithasol;
  • gweithgareddau crefft;
  • gemau a gweithgareddau hamdden;
  • gweithgareddau i bobl hŷn;
  • gweithgareddau i deuluoedd;
  • gweithgareddau digidol;
  • gweithgareddau iechyd a lles; neu
  • weithgareddau lleol eraill sy’n dod â phobl at ei gilydd.

Nid oes rhaid creu gweithgaredd newydd er mwyn gwneud cais.

Gall y Gronfa gefnogi gweithgaredd lleol sydd eisoes yn gweithio’n dda lle mae’r cyllid yn helpu i gynnal, datblygu neu gryfhau’r ddarpariaeth.

Rydym yn eich annog yn gryf i gysylltu â Cist Gwynedd cyn dechrau neu gyflwyno cais. Bydd Cist Gwynedd yn eich cyfeirio at Swyddog Cefnogi Cymunedau eich ardal i drafod eich syniad, eich helpu i wirio cymhwysedd ac ystyried tystiolaeth o angen, darpariaeth bresennol, partneriaethau a ffynonellau ariannu eraill. Nid yw derbyn cyngor yn gwarantu y bydd cais yn llwyddiannus.

Faint o bres sydd ar gael a beth ellir ei ariannu?

Cymhwyster a disgwyliadau

Sut i ymgeisio?

  1. Cysylltwch â ni cyn gwneud cais.
  2. Cwblhewch y Ffurflen Gais Cronfa Croeso Cynnes a Chymorth (yn agor mewn tab newydd)
  3. Cyflwyno ffurflen gais gyflawn, cyfansoddiad a datganiad banc diweddaraf ar e-bost i Cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymru

Dyddiad cau: 1yp, 13 Tachwedd, 2026.

Nodwch: Mae’n hanfodol bod y cynlluniau yn cael eu cyflawni yn llawn o fewn blwyddyn ariannol 2026/27. Bydd disgwyl i holl wariant y cynllun gael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth, 2027.

Cysylltu â ni

Cofiwch bod angen trafod eich syniad gyda Swyddog Cefnogi Cymunedau cyn gwneud cais yn ffordd bwysig o wirio bod y prosiect yn cyd-fynd â’r Gronfa. Nid yw’r drafodaeth hon yn gwarantu cyllid, a bydd pob cais yn destun yr un broses asesu.