Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth i ddarparu llefydd cynnes, diogel a chroesawgar AM DDIM i aelodau'r gymuned yn ystod cyfnodau o dywydd oer neu bwysau costau byw.
Diben y gronfa yw i:
Gefnogi sefydliadau sydd yn darparu mannau cynnes ar draws Gwynedd
Sicrhau bod mynediad am ddim i leoliadau cymunedol pwysig
Ddarparu lleoliadau i gymdeithasu a lleihau unigrwydd
Darparu cymorth ar faterion costau byw
Mwy o wybodaeth
Rhaid i bob prosiect;
gynnig mynediad AM DDIM (peidio â mynnu prynu bwyd neu ddiod)
bod yn hygyrch ac yn gynhwysol
gweithredu mewn modd diogel (asesiad risg, diogelu)
Ni chaiff y gronfa ei defnyddio i:
greu incwm
talu am weithgareddau masnachol
ariannu gwasanaethau sy'n codi tal ar ddefnyddwyr
Uchafswm y grant sydd ar gael: £2,000
Gweler isod y mathau o gostau cymwys gellir ei gefnogi;
Costau gwresogi a goleuo
Diodydd poeth a meddal
Costau staff a gwirfoddolwyr (lle'n briodol)
Yswiriant ychwanegol os oes angen
Gweithgareddau
Bydd ceisiadau sy'n cael eu cynnal mewn canolfannau cymunedol neu leoliadau sefydledig ac yn cael eu rhedeg neu eu cefnogi gan wirfoddolwyr lleol yn cael eu blaenoriaethu yn y broses asesu.
Mae hyn er mwyn cefnogi cydlyniant Cymunedol, cefnogi mentrau sy’n cael eu harwain gan y gymuned a sicrhau gwerth cymdeithasol ehangach o'r gronfa.
Bydd yn rhaid hysbysebu'r ddarpariaeth fel le am ddim gyda chydnabyddiaeth am y grant. Byddwn yn cyflwyno pecyn o sticeri logo Croeso Cynnes i chi ei arddangos ar flaen y safle i hysbysebu’r lleoliad fel man Croeso Cynnes.
Bydd rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu’r wybodaeth ganlynol ar ddiwedd y cynllun:
Faint sydd wedi’i wario a beth y mae wedi’i wario arno
Nifer y lleoedd/gofodau a gefnogwyd
Y gweithgareddau o fewn y gofodau a gefnogwyd
Faint o bobl sydd wedi defnyddio’r gofodau a gefnogwyd (Ffigyrau misol)