Mae'r Gronfa Bwyd a Chymorth Gwynedd yn cael ei hariannu drwy becyn cyllido Cymorth mynd i'r afael a Thlodi Llywodraeth Cymru 2026/2027.
Mae'r gronfa yma yn agored. Dyddiad cau: 13 Tachwedd, 2026.
Mae Cronfa Bwyd a Chymorth Gwynedd yn cefnogi sefydliadau cymunedol sy’n helpu unigolion a theuluoedd sy’n profi tlodi, caledi ariannol neu ansicrwydd bwyd.
Rydym yn cydnabod bod darparu bwyd mewn argyfwng yn gallu bod yn hanfodol. Fodd bynnag, rydym hefyd am sicrhau bod y cymorth a ddarperir yn helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau, cyngor a chefnogaeth a all helpu i fynd i’r afael â’r rhesymau sydd wedi arwain at yr angen am gymorth bwyd.
Ein nod felly yw cefnogi dull o “Bwyd a Cymorth” - gan ymateb i angen uniongyrchol, ond hefyd helpu pobl i gael mynediad at gymorth pellach lle bo hynny’n briodol.
Drwy’r Gronfa rydym am:
gefnogi unigolion a theuluoedd sy’n profi tlodi neu ansicrwydd bwyd;
sicrhau mynediad at fwyd maethlon a fforddiadwy;
ymateb i argyfyngau pan fo angen;
cysylltu pobl â chyngor, gwasanaethau a chymorth perthnasol;
helpu i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi ac ansicrwydd bwyd;
adeiladu gwytnwch unigolion, teuluoedd a chymunedau; a
chryfhau rhwydweithiau cymorth lleol ar draws Gwynedd.
Bwyd a Chymorth
Rydym am gefnogi cynlluniau sy’n cynnig gwerth ychwanegol y tu hwnt i ddarparu bwyd yn unig.
Nid oes disgwyl i sefydliadau cymunedol ddod yn arbenigwyr mewn meysydd fel budd-daliadau, dyled, tai, ynni, iechyd neu les. Yn hytrach, rydym am sicrhau bod cynlluniau’n rhan o rwydwaith lleol o gymorth ac yn gallu helpu pobl i ddod o hyd i’r gwasanaeth cywir pan fo angen.
Gallai hyn gynnwys:
cyfeirio neu gysylltu pobl â gwasanaethau cyngor a chymorth;
gweithio gyda gwasanaethau’r Cyngor neu sefydliadau partner;
cynnig cyfleoedd i wasanaethau eraill gynnal sesiynau cyngor neu gymorth;
cynnig neu hwyluso cymorth digidol;
darparu gwybodaeth am gymorth costau byw;
cysylltu unigolion â llyfrgell, hwb neu ganolfan gymunedol leol; neu
greu cyfleoedd anffurfiol i bobl gael gwybodaeth a chymorth mewn amgylchedd croesawgar.
Nid oes angen i bob cynllun ddarparu pob math o gymorth ei hun. Y nod yw sicrhau bod pobl yn gallu symud yn rhwydd o gymorth bwyd at gymorth arall sydd ei angen arnynt.
Rydym yn eich annog yn gryf i gysylltu â Cist Gwynedd cyn dechrau neu gyflwyno cais. Bydd Cist Gwynedd yn eich cyfeirio at Swyddog Cefnogi Cymunedau eich ardal i drafod eich syniad, eich helpu i wirio cymhwysedd ac ystyried tystiolaeth o angen, darpariaeth bresennol, partneriaethau a ffynonellau ariannu eraill. Nid yw derbyn cyngor yn gwarantu y bydd cais yn llwyddiannus.
Faint o bres sydd ar gael a beth ellir ei ariannu?
Uchafswm grant cyfalaf: £5,000
Gall cyllid cyfalaf gefnogi offer neu welliannau sy’n galluogi sefydliadau i ddarparu neu ddatblygu gwasanaethau bwyd cymunedol.
Gallai hyn gynnwys:
oergelloedd a rhewgelloedd;
offer coginio;
cyfleusterau storio;
offer ar gyfer darparu bwyd;
offer ar gyfer caffis, pantris neu farchnadoedd cymunedol;
offer ar gyfer mentrau tyfu neu gynhyrchu bwyd lleol.
Bydd angen i geisiadau ddangos bod angen clir am y buddsoddiad, bod y gost yn rhesymol (Cyflwyno dyfynbrisiau lle’n briodol), a sut bydd yr offer yn cyfrannu at ddarpariaeth gynaliadwy.
Uchafswm grant refeniw: £3,000
Gall cyllid refeniw gefnogi costau uniongyrchol cynlluniau sy’n cyfrannu at amcanion y Gronfa.
Gallai hyn gynnwys:
prynu bwyd;
cynnal gweithgareddau bwyd cymunedol;
costau rhesymol trafnidiaeth neu ddosbarthu lle gellir dangos angen;
gweithgareddau sy’n helpu pobl i ddatblygu sgiliau neu wytnwch;
gweithgareddau sy’n cysylltu pobl â chyngor a chymorth ehangach;
chostau rhesymol eraill sydd â chysylltiad uniongyrchol â chyflwyno’r cynllun.
Bydd angen tystiolaeth briodol o’r holl wariant.
Gall y Gronfa gefnogi ystod o weithgareddau sy’n ymateb i ansicrwydd bwyd ac yn helpu i adeiladu gwytnwch hirdymor.
Gallai hyn gynnwys:
banciau bwyd;
pantris cymunedol;
clybiau cinio neu swper;
prydau a gweithgareddau bwyd cymunedol;
gweithgareddau coginio a datblygu sgiliau;
mentrau tyfu bwyd;
cymorth bwyd mewn argyfwng;
cynlluniau sy’n gwella mynediad at fwyd maethlon a fforddiadwy;
gweithgareddau sy’n cyfuno bwyd â chyngor, gwybodaeth, gweithgaredd cymunedol neu gymorth arall.
Byddwn yn croesawu’n arbennig gynlluniau sy’n gallu dangos sut maent yn cysylltu cymorth bwyd â gwaith ataliol a chymorth ehangach.
Mae’n hanfodol bod y cynlluniau yn cael eu cyflawni yn llawn o fewn blwyddyn ariannol 2026/27.
Ni fydd y Gronfa fel arfer yn ariannu:
gweithgareddau masnachol neu weithgareddau sy’n cynhyrchu elw;
costau craidd sefydliad nad oes cysylltiad clir rhyngddynt â’r cynllun;
ffioedd aelodaeth;
gweithgaredd sydd eisoes wedi’i ariannu’n llawn o ffynhonnell arall;
cynllun sy’n dyblygu darpariaeth leol heb dystiolaeth glir o angen ychwanegol;
costau nad oes modd darparu tystiolaeth briodol ar eu cyfer; neu
ddarpariaeth sy’n canolbwyntio ar ddosbarthu bwyd yn unig heb ddangos sut mae’n cyfrannu at amcanion ehangach y Gronfa.
Cymhwyster a disgwyliadau
Gall sefydliadau di-elw wneud cais, gan gynnwys:
elusennau;
grwpiau cymunedol a gwirfoddol cyfansoddedig;
mentrau cymdeithasol;
cwmnïau nid-er-elw;
Cwmnïau Budd Cymunedol, lle nad oes budd masnachol yn deillio o’r cynllun;
sefydliadau dielw tebyg.
Cynghorau cymuned a thref
Ni fydd y Gronfa’n cefnogi gweithgaredd sydd wedi’i gynllunio’n bennaf i gynhyrchu elw masnachol.
Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu ar sail ansawdd y cais a’r gwahaniaeth y bydd y cynllun yn ei wneud.
Byddwn yn edrych yn benodol ar:
Angen lleol A oes tystiolaeth glir bod angen y cynllun yn y gymuned?
Gwerth ychwanegol Beth mae’r cynllun yn ei gynnig y tu hwnt i ddarparu bwyd yn unig?
Mynediad at gymorth Sut bydd y cynllun yn helpu pobl i gael mynediad at wybodaeth, cyngor neu wasanaethau eraill pan fo angen?
Partneriaeth a rhwydweithio Sut mae’r cynllun yn gweithio gyda sefydliadau, gwasanaethau a rhwydweithiau lleol eraill?
Osgoi dyblygu Pa ddarpariaeth debyg sydd eisoes yn yr ardal, a sut mae’r cynllun yn ychwanegu ati yn hytrach na’i dyblygu?
Cynaliadwyedd Sut mae’r cynllun yn helpu i adeiladu gwytnwch a lleihau dibyniaeth ar gymorth brys dros amser?
Mynediad A yw’r ddarpariaeth yn hygyrch i’r bobl sydd fwyaf angen y cymorth, gan gynnwys trigolion cymunedau gwledig neu anghysbell?
Rydym yn cydnabod y bydd amgylchiadau lle mai darparu pecyn bwyd brys yw’r ymateb cywir ac uniongyrchol.
Gall fod angen dosbarthu bwyd yn uniongyrchol i gartref unigolyn hefyd, er enghraifft lle mae iechyd, anabledd, trafnidiaeth, lleoliad gwledig neu amgylchiadau eraill yn ei gwneud yn anodd cael mynediad at ddarpariaeth.
Fodd bynnag, nid ydym am i’r Gronfa gefnogi model sy’n ymwneud â dosbarthu bwyd yn unig heb unrhyw gysylltiad â chymorth ehangach.
Bydd angen i gynlluniau sy’n darparu pecynnau bwyd ddangos sut y byddant, lle bo hynny’n briodol, yn rhoi cyfle i unigolion gael gwybodaeth, cyngor, cyfeiriad neu gysylltiad â gwasanaethau eraill a all helpu i fynd i’r afael â’u hamgylchiadau.
Mae Cyngor Gwynedd am sicrhau bod y cyllid sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd deg ac yn ymateb i angen ar draws y sir.
Bydd ansawdd y cais a’r angen a ddangosir yn ganolog i’r penderfyniad. Fodd bynnag, wrth asesu ceisiadau a dyrannu cyllid, byddwn hefyd yn ystyried y darlun ehangach o ddarpariaeth ar draws Gwynedd.
Gall hyn gynnwys:
lefel yr angen yn yr ardal;
nifer a dwysedd y cynlluniau sydd eisoes yn gweithredu;
unrhyw fylchau daearyddol neu fylchau mewn darpariaeth;
natur wledig neu anghysbell yr ardal;
rhwystrau trafnidiaeth neu fynediad;
y ddarpariaeth arall sydd ar gael yn lleol;
photensial y cynllun i gydweithio â darpariaeth sydd eisoes yn bodoli.
Nid yw hyn yn golygu y bydd cyllid yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob ardal. Y nod yw sicrhau bod y buddsoddiad yn adlewyrchu angen, yn osgoi dyblygu diangen ac yn helpu i sicrhau mynediad rhesymol at gymorth ar draws Gwynedd.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio i ddod â gwasanaethau cyhoeddus, cymorth a gweithgareddau cymunedol yn nes at ei gilydd, fel bod trigolion yn gallu cael mynediad haws at gymorth yn eu cymunedau.
Rydym felly am i gynlluniau a gefnogir drwy’r Gronfa fod yn rhan o’r rhwydwaith cymorth lleol, yn hytrach na gweithredu ar wahân.
Bydd disgwyl i gynlluniau:
weithio gyda sefydliadau, gwasanaethau a grwpiau eraill yn eu hardal;
bod yn ymwybodol o’r cymorth arall sydd ar gael yn lleol a gallu cyfeirio pobl ato;
hyrwyddo eu darpariaeth drwy rwydweithiau lleol perthnasol, gan gynnwys llyfrgelloedd a hybiau cymunedol;
sicrhau bod gwybodaeth gyfredol am eu darpariaeth ar gael ar Dewis Cymru, lle bo hynny’n briodol;
rhannu gwybodaeth am eu darpariaeth gyda phartneriaid er mwyn helpu i greu llwybrau clir at gymorth.
Dylai’r ddarpariaeth fod yn hygyrch i bobl sy’n profi caledi ariannol.
Lle codir tâl am fwyd, prydau neu weithgaredd, dylai’r gost fod yn rhesymol ac ni ddylai greu rhwystr i’r bobl sydd fwyaf angen y gwasanaeth.
Ni ddylai unrhyw elw masnachol ddeillio o’r ddarpariaeth a ariennir.
Rydym am fesur mwy na nifer y prydau neu becynnau bwyd a ddarperir.
Bydd angen i gynlluniau ddarparu gwybodaeth sylfaenol am eu gweithgareddau a’r gwahaniaeth a wnaed.
Gallai hyn gynnwys:
nifer yr unigolion neu deuluoedd a gefnogwyd;
nifer y prydau neu becynnau bwyd a ddarparwyd;
nifer y bobl a gafodd wybodaeth neu gymorth ychwanegol;
nifer y bobl a gafodd eu cyfeirio neu eu cysylltu â gwasanaeth arall;
gweithgareddau neu wasanaethau ychwanegol a gynigiwyd;
partneriaethau lleol a ddatblygwyd;
sut mae’r cynllun wedi ymateb i angen lleol; ac
enghreifftiau byr o’r gwahaniaeth a wnaed i unigolion, teuluoedd neu’r gymuned.
Ni fydd disgwyl i sefydliadau gasglu gwybodaeth bersonol ddiangen neu sensitif er mwyn dangos eu heffaith.
Nodwch: Mae’n hanfodol bod y cynlluniau yn cael eu cyflawni yn llawn o fewn blwyddyn ariannol 2026/27. Bydd disgwyl i holl wariant y cynllun gael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth, 2027.
Cysylltu â ni
Cofiwch bod angen trafod eich syniad gyda Swyddog Cefnogi Cymunedau cyn gwneud cais yn ffordd bwysig o wirio bod y prosiect yn cyd-fynd â’r Gronfa. Nid yw’r drafodaeth hon yn gwarantu cyllid, a bydd pob cais yn destun yr un broses asesu.