Mae Banciau Bwyd ar draws Gwynedd yn darparu bocsys bwyd argyfwng i bobl a theuluoedd sydd mewn angen.
Gallwch gael help gan fanc bwyd drwy dderbyn taleb gan weithiwr sy’n eich helpu, neu drwy fynd i’r banc. Mae taleb yn caniatáu i chi gael bwyd argyfwng gyfwerth a 3 diwrnod yn arferol ar gyfer chi a’ch teulu. Mae Gweithwyr Cymdeithasol, Tai, Addysg, Budd-daliadau i gyd yn gallu rhoi taleb banc bwyd i drigolion. Nid yw cael taleb yn hanfodol i bob banc bwyd.
Os ydych chi angen y gwasanaeth cysylltwch â'ch Banc Bwyd lleol:
Pantris Bwyd
Mae Pantri Bwyd (hefyd yn cael eu galw yn gynllun porthi, cynllun fareshare neu enwau tebyg eraill) fel arfer yn dosbarthu bwyd sy’n weddill gan archfarchnadoedd a siopau i drigolion lleol.
Nid yw Pantri Bwyd yn cael ei adnabod fel 'bwyd argyfwng', ond gall fod yn hanfodol i rai cartrefi fel ffordd o gael bwyd fforddiadwy. Mae rhai ohonynt yn pecynnu a dosbarthu’r bwyd i gartrefi, mae eraill yn gwahodd trigolion i ddod i gasglu bwyd o adeilad yn y gymuned. Mae rhai yn rhoi’r bwyd am ddim ac eraill yn codi ffi fechan £3-5 am fagiad o fwyd.
Mae Pantri Bwyd wedi eu sefydlu i arbed bwyd gweddilliol rhag mynd yn wastraff, ac atal y bwyd hwnnw rhag mynd i dirlenwi.