Fel rhan o gynllun Tŷ Gwynedd, mae Cyngor Gwynedd yn datblygu naw chartref fforddiadwy newydd ger stad Maes Twnti, Morfa Nefyn.

Mae’r prosiect yn cynnwys:

  • Pedwar cartref dwy ystafell wely
  • Pum cartref tair ystafell wely

Bydd Cyngor Gwynedd yn bwrw ymlaen i godi naw tŷ newydd ger stad Maes Twnti, Morfa Nefyn, wedi i’r datblygiad arfaethedig dderbyn caniatâd gan Bwyllgor Cynllunio Gwynedd yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2025.


Cynllun Tŷ Gwynedd

Mae’r cartrefi newydd ym Morfa Nefyn yn rhan o gynllun Tŷ Gwynedd, sef cynllun datblygu tai gan Gyngor Gwynedd sy’n anelu at ddarparu 90 o dai fforddiadwy i bobl leol ar draws y sir. Amcan y cynllun hwn yw cefnogi pobl sy’n ei chael hi’n anodd prynu neu rentu tŷ ar y farchnad agored ond sydd efallai ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol.

Ein gweledigaeth yw datblygu tai fforddiadwy o safon. Byddwn yn cyflawni hyn drwy lynu at yr egwyddorion dylunio canlynol:

  • Fforddiadwy – tai ar gael i'w prynu a'u rhentu am bris fforddiadwy.
  • Addasadwy – dyluniadau hyblyg y gellir eu haddasu i gwrdd ag anghenion sy’n newid dros amser.
  • Cynaliadwy – defnydd o ddeunyddiau ecogyfeillgar a chadwyni cyflenwi lleol.
  • Ynni-effeithiol – rhoi technoleg fodern ar waith i leihau ôl troed carbon a lleihau costau ynni.

Mae’r cynllun hwn yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd, sy’n anelu i adeiladu, prynu neu adnewyddu dros 2,000 o gartrefi dros oes y Cynllun.

Mwy o wybodaeth am gynllun Tŷ Gwynedd


Sut i ymgeisio?

Bydd modd cyflwyno cais i Gyngor Gwynedd am dŷ wrth iddo ddod ar gael.


Y diweddaraf am ddatblygiad Tŷ Gwynedd ym Morfa Nefyn


Darllenwch y datganiadau i’r wasg ddiweddaraf:

Am y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (yn agor mewn tab newydd).