Fel rhan o gynllun Tŷ Gwynedd, mae Cyngor Gwynedd yn datblygu 10 cartref fforddiadwy newydd ar safle cyn Ysgol Babanod Coed Mawr, Bangor.
Mae’r prosiect yn cynnwys:
- Chwe thŷ gyda thri llofft
- Pedwar tŷ gyda dwy llofft
Mae’r gwaith o adeiladu’r tai wedi bod yn mynd rhagddo ers i OBR Construction ddechrau ar y safle ym mis Rhagfyr 2024.
Cynllun Tŷ Gwynedd
Mae’r cartrefi newydd ym Mangor yn rhan o gynllun Tŷ Gwynedd, sef cynllun datblygu tai gan Gyngor Gwynedd sy’n anelu at ddarparu 90 o dai fforddiadwy i bobl leol ar draws y sir. Amcan y cynllun hwn yw cefnogi pobl sy’n ei chael hi’n anodd prynu neu rentu tŷ ar y farchnad agored ond sydd efallai ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol.
Ein gweledigaeth yw datblygu tai fforddiadwy o safon. Byddwn yn cyflawni hyn drwy lynu at yr egwyddorion dylunio canlynol:
- Fforddiadwy – tai ar gael i'w prynu a'u rhentu am bris fforddiadwy.
- Addasadwy – dyluniadau hyblyg y gellir eu haddasu i gwrdd ag anghenion sy’n newid dros amser.
- Cynaliadwy – defnydd o ddeunyddiau ecogyfeillgar a chadwyni cyflenwi lleol.
- Ynni-effeithiol – rhoi technoleg fodern ar waith i leihau ôl troed carbon a lleihau costau ynni.
Mae’r cynllun hwn yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd, sy’n anelu i adeiladu, prynu neu adnewyddu dros 2,000 o gartrefi dros oes y Cynllun.
Mwy o wybodaeth am gynllun Tŷ Gwynedd
Gadewch i ni wybod os oes gennych ddiddordeb
Cysylltwch â’r Siop un Stop os ydych chi am fynegi diddordeb yn un o’r tai hyn:
- tai@gwynedd.llyw.cymru
- 01286 685 100
Darllenwch y datganiadau i’r wasg ddiweddaraf am ddatblygiad Coed Mawr, Bangor:
Am y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (yn agor mewn tab newydd).