Problemau gor-yrru
Terfyn cyflymder 20mya
Cais i osod arwyddion ailadrodd 20mya
Twmpathau rheoli cyflymder


Problemau gor-yrru

Os ydych yn poeni am or-yrru yn eich ardal, gallwch adrodd y broblem drwy gysylltu â Gan Bwyll:

Cysylltu â Gan Bwyll (yn agor mewn tab newydd)

Terfyn cyflymder 20mya

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi terfyn cyflymder o 20mya ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru (sy'n ei le ers 17 Medi 2023).

Mae terfynau 20mya mewn ardaloedd trefol ac yn cynnwys ffyrdd lle mae goleuadau stryd wedi’u gosod dim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd. Gweld mwy o fanylion (yn agor mewn tab newydd)

Yn sgil y newid, mae'r terfynau cyflymder 30mya blaenorol wedi gostwng i 20mya yn y mwyafrif o safleoedd yng Ngwynedd. Ond gyda rhai ffyrdd lle mae yna gyfiawnhad, mae'r y cyfyngiadau wedi aros yn 30mya ac mae gwaith manwl wedi ei gynnal i ystyried y lleoliadau yma gan beirianwyr y Cyngor.

Mae’r Cyngor hefyd wedi adnabod lleoliadau lle roedd terfynau cyflymder yn 30mya, ond oedd heb eu goleuo yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Mewn lleoliadau lle byddai’n fuddiol i’r gymuned i leihau'r cyfyngiadau cyflymder i 20mya, mae'r Cyngor wedi gwneud hynny drwy gyflwyno gorchymyn traffig.

Fe wnaeth swyddogion y Cyngor drafod gyda Chynghorau Cymuned/Trefol/Dinasol a rhanddeiliaid eraill a chynnal cyfnod derbyn sylwadau am yr argymhellion..

Gweld map yn dangos yr argymhellion ar gyfer Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)

Mae map yn cynnwys Ffyrdd dosbarth A, B a ffyrdd cysylltiedig. Er nad ydi ffyrdd o fewn stadau tai wedi eu dynodi ar y map, mae'r rhain yn newid i 20mya yn unol â’r rhinwedd goleuadau stryd.

Mae mwy o wybodaeth am y cynllun Cymru-gyfan ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd).


Cais i osod arwyddion ailadrodd 20mya

Nid yw’n gyfreithlon i’r Cyngor osod arwyddion ailadrodd (‘repeaters’) na marciau ffordd ychwanegol ar gyfer cyfyngiad cyflymder o 20mya ar ein rhwydwaith oherwydd:

  • Dim ond ar gyfyngiadau 30mya, 40mya a 50mya y caniateir arwyddion ailadrodd.
  • Ar ôl i yrwyr gyrraedd arwyddion cychwynnol 20mya, disgwylir iddynt wybod nad yw’r cyfyngiad yn newid nes eu bod yn gweld arwyddion newydd.
  • Ni chaniateir paentio ‘roundels’ 20mya ar wyneb y ffordd heblaw am ar ddechrau’r cyfyngiad.

Twmpathau rheoli cyflymder

Nid oes cyllid penodol ar gael ar hyn o bryd i adeiladu twmpathau neu glustogau cyflymder ar y rhwydwaith.

Os bydd ceisiadau am dwmpathau rheoli cyflymder yn cael eu derbyn bydd y Cyngor yn:

  • Monitro effeithiolrwydd y terfynau cyflymder sydd mewn lle.
  • Ymdrin â phroblemau lleol yn ôl eu teilyngdod os bernir bod y cyfyngiadau newydd yn aneffeithiol mewn lleoliad penodol.

Gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio: Traffig@gwynedd.llyw.cymru