Drych ar briffordd
Drych ar dir preifat
Drych yn achosi pryder diogelwch

Drych ar briffordd

Yn gyffredinol, nid yw Cyngor Gwynedd yn cefnogi gosod drychau ar y briffordd gyhoeddus.

Er bod pryderon am welededd ar gyffyrdd yn ddealladwy, mae canllawiau cenedlaethol ac ymchwil yn dangos y gall drychau greu risgiau newydd yn hytrach na gwella diogelwch.

Pam nad yw drychau’n cael eu cefnogi?

  • Gall drychau leihau gallu modurwyr i farnu cyflymder cerbydau sy’n dod tuag atynt.
  • Gall gosodiad greu dibyniaeth afresymol ar y drych.
  • Os bydd drych yn mynd yn fudr (gan gynnwys anwedd), gall hyn ystumio neu gyfyngu gwelededd.
  • Yn aml caiff drychau eu difrodi gan ddamweiniau neu eu fandaleiddio.
  • Mae cynnal aliniad a glendid drych yn fater parhaus.
  • Gall drychau fod yn beryglus i ddefnyddwyr eraill y ffordd oherwydd adlewyrchiad golau’r haul neu oleuadau cerbydau yn y nos.
  • Gellir cyfyngu ar welededd cerbydau sy’n dod allan o ffyrdd gyferbyn.
  • Gall dibynnu ar ddelwedd gyfyngedig y drych beryglu cerddwyr a beicwyr nad ydynt yn ymddangos yn y drych, yn enwedig mewn tywydd gwael.
  • Gall drychau fod yn ddryslyd i fodurwyr sydd yn anghyfarwydd â’r ardal.
  • Gall fod yn anodd lleoli drychau yn foddhaol (yn enwedig ar groesffordd).

O dan pa amgylchiadau fydd gosod drych yn cael ei ystyried?

  • Pan mae data gwrthdrawiadau yn dangos cysylltiad uniongyrchol â phroblemau gwelededd yn y lleoliad i gefnogi unrhyw osodiad drych.
  • Ni ddylai’r drych ymestyn uwchben y briffordd nac atal mynediad i gerbydau, cerddwyr neu farchogion.
  • Pan na ellir gwella gwelededd trwy docio neu dynnu gwrychoedd, coed, waliau neu rwystrau eraill, gellir ystyried drych.
  • Pan nad yw cynllun gwella gwelededd yn ymarferol, gellir ystyried gosod drych.
  • Pan fo’r terfyn cyflymder ar y ffordd fawr yn uwch na 30mya, gellir ystyried gosod drych.

Yn yr amgylchiadau prin lle bydd drych yn cael ei osod, bydd adolygiad yn cael ei gynnal ymhen tua blwyddyn. Os yw’n aneffeithiol neu’n beryglus, gall y Cyngor ei dynnu.


Drych ar Dir Preifat

Nid yw Cyngor Gwynedd yn darparu drychau ar gyfer eu gosod ar eiddo preifat.

Er nad yw Cyngor Gwynedd yn cefnogi gosod drychau traffig wrth y briffordd fel arfer, gellir caniatáu drych ar gyfer mynedfeydd preifat gyda gwelededd cyfyngedig pan na ellir cymryd unrhyw gamau rhesymol eraill, ac os yw’r amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  • Fod y drych wedi’i osod y tu allan i ffiniau’r briffordd ac yn cydymffurfio â Rheoliadau Arwyddion Traffig a’r Cyfarwyddiadau Cyffredinol.
  • Nid yw’r drych yn berygl i ddefnyddwyr eraill y briffordd oherwydd adlewyrchiad golau’r haul neu oleuadau cerbydau yn y nos.
  • Nid yw’r drych yn gorwedd dros y briffordd nac yn rhwystro mynediad i gerbydau, cerddwyr neu farchogion.
  • Mae caniatâd gan y tirfeddiannwr.
  • Mae’r ymgeisydd yn talu holl gostau gosod a chynnal.
  • Gall y person sy’n gosod drych traffig fod yn atebol os bydd digwyddiad yn cael ei achosi oherwydd ei osodiad.

Drych yn achosi pryder diogelwch

Os yw drych ar dir preifat yn peri pryder diogelwch, rhowch wybod i ni: traffig@gwynedd.llyw.cymru