Mae gwaith hefyd yn digwydd i osod rhagor o fannau gwefru mewn lleoliadau yn ardaloedd Bangor, Blaenau Ffestiniog,, Dolgellau, Llanberis, Penygroes, a Phwllheli dros y misoedd nesaf.
Mae yna amrywiaeth o fathau pwyntiau gwefru yn cael eu darparu – 7kW (4awr*), 22kW (2 - 3awr*), 50kW (40 munud*), 150kW (15 munud*). Mae manylion am leoliadau pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Ngwynedd a phrisiau defnyddio’r peiriannau ar gael ar wefan ZapMap (yn agor mewn tab newydd) (gwefan allanol)
*Amcan amser gwefru i deithio 100 milltir
Cyfarwyddiadau Gwefru Cyhoeddus
(Chwim: fel arfer 50kW ac uwch)
Cyn i chi ddechrau
Gwnewch yn siŵr bod eich cerbyd trydan yn medru defnyddio peiriannau gwefru chwim (edrychwch ar lawlyfr eich cerbyd os nad ydych yn siŵr).
Cysylltwch eich cebl i'r pwynt gwefru gwefru a'ch cerbyd.
Bydd y gwefru yn dechrau ar ôl cwblhau'r camau uchod.
Sut i orffen sesiwn
Stopiwch ddefnyddio'r pwynt gwefru gwefru drwy ddefnyddio yr un dull talu a ddefnyddiwyd ar y dechrau.
Tynnwch eich cebl o'r ddau ben.
Cadwch eich cebl yn daclus i osgoi peryglon baglu.
Nodwch:
Bydd taliad o £35 yn cael ei dynnu o’ch cyfrif i gychwyn y sesiwn gwefru
Ar ôl eich sesiwn, dim ond y gwir gost bydd yn cael ei chodi.
Bydd unrhyw falans sy'n weddill yn cael ei ryddhau (fel arfer o fewn 5–7 diwrnod gwaith).
Dulliau talu
Gallwch ddefnyddio Ap Rhwydwaith Evolt i wefru - nid oes angen cyfrif. Mae’n bosib creu cyfrif i hwyluso defnyddio pwyntiau gwefru eraill ar y rhwydwaith.
Yn syml, tapiwch eich cerdyn banc, Apple Pay, neu Google Wallet (a elwid yn flaenorol yn Google Pay)* ar y darllenydd i ddechrau a rhoi'r gorau i wefru - nid oes angen Ap na chyfrif.
Gwelwch isod fideo yn dangos sut i ddefnyddio gwefrydd SWARCO yn defnyddio cerdyn banc digyswllt:
(Nodwch fod y dudalennau uchod ar gael yn Saesneg yn unig)
Gallwch ddefnyddio eich cerdyn neu Ap presennol Darparwr Gwasanaeth eMobility (eMSP) neu Ap ar Rwydwaith Evolt, ChargePlace Scotland, a PoGo Charge - nid oes angen cofrestru eto na lawrlwytho Ap arall.
Gwybodaeth Talu: Awdurdodi ymlaen llaw: Wrth ddefnyddio dulliau talu heblaw am y cerdyn RFID Rhwydwaith Evolt, bydd angen gwneud taliad o flaen llaw cyn dechrau sesiwn gwefru. Mae'r system yn gweithio yn debyg i orsafoedd petrol talu-wrth-y-pwmp, er mwyn atal taliadau rhag methu neu gamddefnyddio'r cerdyn.