Ymholiad / cwynion parcio

Mae nifer o feysydd parcio yng Ngwynedd sy'n cynnig parcio diogel a fforddiadwy.

Mae meysydd parcio arhosiad byr wedi eu lleoli’n agos at ganolfannau siopa gyda meysydd parcio arhosiad hir wedi eu lleoli ar gyffiniau’r trefi neu bentrefi neu mewn ardaloedd sydd ag atyniadau tebyg i lan y moroedd neu lwybrau cerdded.
Mwy o wybodaeth am feysydd parcio Gwynedd

Mae Swyddogion Gorfodaeth Sifil yn gyfrifol am orfodaeth parcio ar, ac oddi ar ein strydoedd, ac am gynnal ein meysydd parcio i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel a thaclus i ni i gyd.

Ymholiad / cwyn parcio

Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i ymdrin â’ch ymholiad neu gŵyn yn brydlon a phriodol.
Os bydd y pwerau gan y Cyngor i weithredu ac os yw’n ymarferol bosib i wneud, byddwn yn gweithredu yn unol â’r rheoliadau a deddfwriaethau perthnasol.

Os ydi eich ymholiad yn ymwneud â dirwy parcio, ewch i: Dirwy parcio